thaerwn arni ei hun ddifetha y mab. Ac oni fydd ein llw ni ein chwech yn gadarnach na'i gair hi ei hun?"
Ac ar y cyngor hwnnw y trigiasent. Tua'r dydd deffrodd Rhianon, a dywedodd,—
"Wragedd," ebe hi, "lle mae'r mab?"
"Arglwyddes," ebe hwy, "na ofyn i ni am y mab. Nid oes o honom ni ond cleisiau ac ôl dyrnodiau wedi ymdaro â thi. Ni welsom ni erioed wraig yn meddu'r fath nerth a thydi. Ni thyciodd i ni ymryson yn dy erbyn. Fe ddinistriaist dy fab dy hun. Na hawlia ef gennym ni."
"Ha druain," ebe Rhianon, "yr Arglwydd Dduw a ŵyr bob peth, na roddwch anwiredd arnaf. Y Duw a ŵyr bob peth a ŵyr fod hynny'n anwiredd. Ac os ofn sydd arnoch, yn wir, mi a'ch amddiffynnaf."
"Yn sicr," ebe hwythau, "ni adawn ni ddrwg ddod arnom ein hunain er dyn yn y byd."
"O druain," ebe hithau, "ni chewch un drwg er dywedyd y gwirionedd."
Ond er a ddywedai hi, yn deg ac yn druan, ni chai ond yr un ateb gan y gwragedd.
Ar hynny, cododd Pwyll Pen Annwn a'i deulu a'i luoedd. A chelu y ddamwain honno ni allwyd. I'r wlad yr aeth y chwedl, a phawb o'r gwŷr—da a'i clybu. A daethant i gyd at Bwyll i erchi iddo ysgar a'i wraig, am gyflafan mor anweddus ag a wnaethai. Atebodd Pwyll nad oedd ganddynt hwy achos i wneud iddo ysgar a'i wraig, namyn am na byddai ganddi blant.
"Plant, mi a wn sydd ganddi," ebe Pwyll, "ac nid ysgaraf â hi. Os gwnaeth gam, cymered ei phennyd amdano."
Galwodd Rhianon ati athrawon a doethion, a chan fod yn well ganddi gymryd ei phennyd nac ymdaeru â'r gwragedd, ei phennyd a gymerodd. A'r pennyd ddodwyd