Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arni oedd, bod yn y llys hwnnw yn Arberth hyd ymhen y saith mlynedd. Wrth y porth yr oedd esgynfaen; ac yr oedd yn rhaid iddi eistedd gerllaw hwnnw beunydd, a dweyd yr holl hanes wrth bawb ar a ddelai, os tebygai na wyddent yr hanes o'r blaen, a chynnig dwyn pob ymwelwr ac estron ar ei chefn i'r llys. A damwain y gadawai neb iddi ei ddwyn. Ac felly treulio talm o'r flwyddyn a wnaeth.

Ac yn yr amser hwnnw yr oedd Teyrnion Twrf Fliant yn arglwydd ar Went Iscoed. A'r gŵr goreu yn y byd oedd. Ac yn y tŷ yr oedd caseg, ac nid oedd yn ei deyrnas farch na chaseg decach na hi. A phob nos Calanmai deuai ag ebol bach, ac ni wyddai neb beth a ddeuai o'r ebol. Ac un noswaith ymddiddanodd Teyrnion â'i wraig.

"Ha wraig, llibin ydym yn cadw epil ein caseg heb gaffael yr un ohonynt."

"Beth a ellir wrth hynny?" ebe hi.

Fel y Cafwyd baban "Yn wir," ebe ef, "nos Galanmai yw heno, a mynnaf wybod beth sydd yn dwyn yr ebolion."

Parodd ddodi'r gaseg mewn tŷ. Gwisgodd yntau arfau am dano, a dechreuodd wylio'r nos. Ac ar y cyfnos daeth y gaseg ag ebol mawr a hardd, yr hwn a safodd ar ei draed yn y fan. Cododd Teyrnion i edrych ar faint yr ebol. Ac fel yr oedd yn edrych felly, fe glywai dwrf mawr. Ac ar ol y twrf, dyma grafanc yn dod trwy ffenestr ar y tŷ, ac yn ymafael â'r ebol ger ei fwng. Tynnodd Teyrnion ei gleddyf, a tharawodd y fraich wrth y penelin ymaith, fel yr oedd darn o'r fraich a'r ebol ganddo i mewn. Ar hynny, clywai dwrf a therfysg. Agor y drws a wnaeth a rhuthro ar ol y twrf. Ni welai beth oedd yn gwneud y twrf gan dywylled y nos. Rhuthrodd ar ei ol, gan ymlid. A daeth i'w gof iddo