Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y newydd a ddaeth at Fatholwch, yn dywedyd am anffurfio'r meirch a'u difetha hyd nad oedd dim mwyniant a ellid ohonynt.

"Ie, arglwydd," ebe un, "dy waradwyddo a wnaethpwyd, a hynny a fynnir wneud iti."

"Dioer, rhyfedd yw gennyf, os fy ngwaradwyddo a fynnent, iddynt roddi morwyn o haniad mor uchel a chyn anwyled gan ei chenedl ag a roddasant i mi."

Arglwydd," ebe un arall, "ti a weli mai hyn yw eu hamcan, ac nid oes dim iti wneud ond cyrchu tua'th longau." Ar hynny, gorchymyn ei longau a wnaeth.

Y newydd a ddaeth at Fendigaid Fran fod Matholweh yn gadael y llys heb ofyn cennad. A chenhadau a aeth i ofyn iddo paham y gwnai hynny; sef y cenhadau a aeth, Iddig fab Anarawc ac Efeydd Hir. Y gwŷr hyn a'i goddiweddodd, ac a ofynasant iddo pa ddarpar oedd yr eiddo, ac o achos beth yr oedd yn myned ymaith.

"Yn wir," ebe yntau," pe gwypwn, ni ddeuwn yma. Cwbl waradwydd a gefais,—ni fu taith neb yn waeth na fy un i yma. A rhyfedd iawn i mi yw un peth."

"Beth yw hynny?" ebe hwy.

"Roddi Branwen ferch Llyr,—un o dair prif riain yr ynys hon, ac yn ferch i frenin Ynys y Cedyrn,—i mi'n wraig, ac wedi hynny fy ngwaradwyddo. Rhyfedd yw gennyf na fuasai yn fy ngwaradwyddo cyn roddi i mi forwyn gystal a hi."

"Yn sicr, arglwydd, nid o fodd y neb fedd y llys," ebe hwy, "na neb o'i gyngor y gwnaethpwyd y gwaradwydd hwnnw iti. Ac er mai gwaradwyddus gennyt ti yw hynny, mwy yw gan Fendigaid Fran y gwarth hwnnw a'r sarhad."

"Ie," ebe ef, "mi a debygaf. Er hynny ni all byth fy niwaradwyddo i o hynny." Y gwyr hynny a ddychwelasant a'r ateb hwnnw tua'r lle yr oedd Bendigaid Fran, a mynegi iddo yr ateb a roddasai Matholwch.