mai yn fy enw i y bydd yr etifeddiaeth, boed y mwyniant i ti a Rhianon; a phe mynnit frenhiniaeth erioed, ysgatfydd y ceffit ti honno."
"Na fynnaf, unben," ebe ef, " y nef a dalo i ti am dy garedigrwydd."
"Gwnaf y caredigrwydd mwyaf allaf â thi, os mynni."
Mynnaf, enaid, y nef a dalo i ti; a mi a af gyda thi i edrych Rhianon, ac i edrych y frenhiniaeth."
"Iawn y gwnei," ebe yntau, "a chredaf na chlywaist erioed wraig well ei hymddiddan na hi. Yr amser y bu hithau ar ei goreu, ni fu ferch harddach na hi; ac hyd yn oed eto ni byddi anfoddlon ar ei phryd."
A hwy a gerddasant rhagddynt, a pha hyd bynnag y buont ar y ffordd, daethant i Ddyfed. Ac erbyn eu dyfod i Arberth, yr oedd Rhianon a Chicfa wedi darparu gwledd iddynt. Yna dechreu cyd-eistedd ac ymddiddan a wnaeth Manawyddan â Rhianon. Ac o'r ymddiddan, tirioni a wnaeth ei fryd a'i feddwl wrthi, a chredu na welsai erioed wraig gyflawnach o brydferthwch ac addfwynder na hi.
"Pryderi," ebe ef, "mi a fyddaf fel y dywedaist ti."
"Pa ddywediad oedd hwnnw?" ebe Rhianon.
Fel y Priododd RhianonArglwyddes," ebe Pryderi, "mi a'th roddais yn wraig i Fanawyddan, fab Llyr."
"Minnau a fyddaf felly yn llawen," ebe Rhianon.
"Llawen yw gennyf finnau," ebe Manawyddan, "a'r nef a dalo i'r gŵr sydd yn rhoddi i mi garedigrwydd mor gywir a hwn." Priodwyd Manawyddan â Rhianon.
"Yr hyn na ddarfyddodd o'r wledd treuliwch chwi," ebe Pryderi, a minnau a af i ddwyn fy ngwarogaeth i Gaswallon fab Beli hyd yn Lloegr."