Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd," ebe Rhianon, "yng Nghent y mae Caswallon; a thi a elli orffen y wledd hon ac aros iddo yntau ddod yn nes."

"Ninnau a arhoswn," ebe ef. A'r wledd honno a dreuliasant.

A dechreu mynd ar gylch trwy Ddyfed a wnaethant, a'i hela, a chymryd eu digrifwch. Ac wrth rodio y wlad ni welsant erioed wlad fwy ei phreswylwyr na hi, na heldir gwell, nac amlach ei mêl a'i physgod na hi. A thyfodd cyfeillgarwch rhyngddynt ill pedwar, fel na fynnai yr un fod heb ei gilydd na dydd na nos.

A'r adeg hynny aeth Pryderi hyd yn Rhydychen i dalu gwarogaeth i Gaswallon. A dirfawr oedd y caredigrwydd gafodd yno, a diolchwyd iddo am dalu y warogaeth.

Ac wedi dychwelyd cymryd eu gwleddau a'u hesmwythter a wnaeth Manawyddan a Phryderi. Yn Arberth y dechreuasant wledda, canys prif lys oedd, ac oddi yno y dechreuai pob anrhydedd. Ac wedi y bwyta cyntaf y nos honno, tra yr oedd y gwasanaethwyr yn bwyta, cyfododd y pedwar ac aethant tua Gorsedd Arberth, a'u canlynwyr gyda hwy.

Ac fel yr eisteddasant yno, dyma dwrf; a chan faint y twrf, dyma gawod o niwl fel na welai yr un ohonynt ei gilydd. Ac ar ol y niwl, dyma hi yn Fel y rhowd hud ar Ddyfedgoleuo pob lle. A phan edrychasant y ffordd y gwelent lawer praidd ac eiddo a phreswylfeydd cyn hynny, ni welent ddim, na thŷ, nac anifail, na mwg, na thân, na dyn, na phreswylfa,—ond tai y llys yn wag ddiffaith anghyfannedd,—heb ddyn, heb anifail ynddynt, a'u cyfeillion, ond hwy eu pedwar, wedi eu colli heb wybod dim amdanynt.

"O Dduw," ebe Manawyddan, "pa le mae gwŷr y llys, a'n gwŷr ninnau, ond y rhai hyn? Awn i edrych."