Ac aeth yr offeiriad ymaith.
A'r peth wnaeth yntau oedd rhoddi y llinyn yn fagl am wddf y llygoden, ac fel yr oedd yn ei chodi, gwelai was esgob a'i nwyddau a'i niferoedd, a'r esgob ei hun yn dyfod tuag ato. Gohiriodd yntau y gwaith.
"Arglwydd esgob," ebe ef, "dy fendith."
"Duw a roddo ei fendith i ti," ebe ef, "pa ryw waith wyt yn ei wneuthur?"
"Crogi lleidr a gefais yn lladrata oddiarnaf," ebe ef.
"Onid llygoden," ebe yntau, "a welaf i yn dy law di?"
Fel yr erfyniodd esgob"Ie," ebe yntau, "a lleidr a fu hi arnaf fi."
"Ie," ebe yntau, "gan i mi ddyfod pan ar ladd y pryf yna, mi a'i prynnaf gennyt, —mi a roddaf seithpunt i ti am dano. A rhag gweled gŵr mor urddasol a thi yn lladd pryf mor ddielw a hwnyna, gollwng ef ymaith, a chei yr arian."
"Na ollyngaf, myn fy nghrefydd," ebe yntau.
"Gan nas gollyngi am hynny, mi a roddaf bedair punt ar hugain o arian parod, a gollwng ef."
"Yn wir, yn wir, myn fy nghyffes i Dduw, ni ollyngaf ef er cymaint arall," ebe yntau.
"Gan nas gollyngi am hynny," ebe ef, "mi a roddaf iti a weli o feirch yn y maes hwn, a'r nwyddau, a'r saith gwas, a'r saith march y maent arnynt."
"Na fynnaf er fy nghrefydd," ebe yntau.
"Gan na fynni hynny, gwna er y pris a fynni."
"Gwnaf," ebe yntau,—" rhyddhau Rhianon a Phryderi."
"Ti a gei hynny."
"Nid yw hynny ddigon."
"Beth a fynni, ynte?"
"Gwared yr hud a'r lledrith oddiar saith gantref Dyfed."