"Cefais brofiad heddiw na ddymunwn gael ei gyffelyb byth mwy,' byth mwy," meddai'r siryf, gan ysgwyd ei ben mewn difrifwch dybryd.
"Mae'n ddrwg gennyf am hynny," meddai Morys. "Pa beth a ddigwyddodd?"
Ochneidiodd y gŵr mawr. Yr oedd ei brofiadau chwerw y tu hwnt i allu geiriau i gyfleu syniad priodol amdanynt, yn ôl yr arwydd. Edrychodd i'r gornel lle'r eisteddai'r hen ŵr, ac edrychodd eilwaith ar yr yswain, fel pe gofynnai ai doeth iddo ddywedyd ychwaneg ar hynny o bryd.
"Y mae'r hen ŵr druan yn drwm iawn ei glyw," meddai Morys, gan ateb y gofyniad mud. "Ewch ymlaen. Ddigiwn ni mono wrth gael ymgom, er na chlyw ef air o'r hyn a ddywedir."
Ond nid oedd y siryf yn barod i ddechrau. Ni allai gasglu ei feddyliau at ei gilydd. Ni allai gael trefn ar yr atgofion cynhyrfus oedd ynddo. Yr oedd yn amlwg bod yr amgylchiad wedi gwneud argraff ddofn arno. Ond cyn hir dechreuodd siarad, yn gynhyrfus, fel un wedi bod mewn cyffyrddiad â bodau anelwig o fyd anweledig, ac wedi ei gamdrin ganddynt. Yn awr ac eilwaith tawai yn sydyn, a byddai distaw— rwydd hir. Ac yn y distawrwydd hwnnw gwelai Morys ef yn ysgwyd ei ben yn ddifrifol, a'i wefusau mud yn symud fel pe'n offrwm gweddi ddistaw am amddiffyniad y nefoedd rhag rhengau echrys yr un drwg.
Methai'r yswain ddirnad pa beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd. Wrth wrando'r adroddiad, drwg— dybiai, wrth reswm, mai rhyw ystryw oedd, wedi ei llunio a'i threfnu gan Madam Wen ei hun, ac mai'r amcan oedd camarwain yr awdurdodau gwladol drwy gyfrwng y siryf. Ac ni allai lai na gwenu wrth ganfod mor drylwyr yr oedd hi wedi llwyddo yn yr amcan hwnnw. Y siryf druan! Beth a dalai llu arfog na gwarantau diwerth brenin yn y byd yn wyneb galluoedd tywyll tywysog y gwyll? Yr oedd y siryf wedi torri'i