hi petasai'n ymddwyn yr un fath â phob cyffredin arall. Ac er nad oedd ef erioed wedi olrhain i'w darddiadau yr hyn a ddenai ei fryd, diau fod a wnelai'r neilltuolion hyn ynddi hi lawer â dwyn ei fryd ar y cyntaf a sefydlu ei serch arni mor drylwyr byth wedyn.
Gofynnai am ei faddeuant am ei gadw mor hir heb air o'i hanes. Dyna sut y dechreuai'r llythyr. Wrth ofyn hynny gwnâi ar yr un pryd esgus drosti'i hun. Yr oedd wedi bod wrth yr hen orchwyl, cyflawni gwaith ei hadduned. Yr oedd wedi bod ymhell, ond ni ddywedai ym mha le. Ac yr oedd wedi llwyddo'n ddirfawr. Ond ni ddywedai pa fodd. Golygai llwyddiant ennill cyfoeth yn ddiamau. Ond methai Morys a dirnad pa fodd y gwnâi hynny.
Ond llythyr serch oedd y llythyr. Dyna oedd ei faich, ac wrth ddarllen ymlaen anghofiwyd yr adduned, a'r gwaith, a'r dirgelwch. Darllenai, a theimlai ei galon yn cynhesu, a'i obaith yn bywhau. Ond beth oedd yr elfen arall oedd megis yn ymguddio ymysg y brawddegau, gan ddangos ei phen yn awr ac eilwaith mewn ambell air nad oedd ei esboniad yn eglur? Dygai i'w feddwl rywbeth tebyg yn null Einir ei hun, rhyw elfen wibiol a rhiniol o dristwch neu ofid yn gymhleth â llawenydd, ac yn diflannu fel mwg pan geisid ei holrhain.
Mynnai Einir ei hysmaldod cyn diweddu'r llythyr. Soniai am Madam Wen a'i rhagoriaethau, gan ddannod iddo'r diddordeb a deimlai ef yn arwres y llyn. Cerddai ar ymylon difrifwch, nes peri iddo deimlo weithiau ryw don fechan o euogrwydd yn golchi trosto, nes bron a pheri iddo ofyn iddo'i hun ai tybed, mewn gwirionedd, y byddai Madam Wen yn amlach yn ei feddwl nag y dylai fod. Ond wedyn, ysmaldod oedd. Darllenodd y llythyr drosodd a throsodd.
Pan oedd haul yn tywynnu fel hyn mor ddisglair ar lwybr Morys Williams, tua'r un adeg yr oedd cymylau tywyll ar lwybr mwy distadl Twm Pen y Bont. Dywedai'r ardalwyr am Twm mai un anghymdogol i'r eithaf oedd. Ac os ceid ambell un yn eu mysg