yn ddigon eangfrydig i wneud esgus drosto, yr unig dir y gwneid hynny arno fyddai mai hen lanc oedd Twm yn byw ei hunan, ac yn ddigon naturiol heb ganddo nac amser nac awydd i fod yn groesawus.
Cadwai'r dyn bach ei gyfrinach mor hynod o glos fel na wyddai neb yn yr ardal beth oedd yn mynd ymlaen o dan gronglwyd ei dŷ. Hynny ydyw, ni wyddai neb ond y rhai y perthynai iddynt wybod,—Madam Wen a rhyw dri neu bedwar arall—ac yr oedd gwybod y rhai hynny fel y bedd, yn cymryd i mewn heb roddi dim allan. Damwain ac aflwydd oedd i un na pherthynai iddi wybod gael cip un noson ar ddirgelwch Pen y Bont. Fel hyn y bu hynny.
Yr oedd gan Margiad y Crydd haid o hwyaid, ac er bod llawn filltir o'r afon yn nes i'r cartref at eu gwasanaeth, ni thalai dim ganddynt ond llwydo'r dŵr beunydd yn y pyllau uwch Pen y Bont. Gwyddai Margiad yn burion am y gwendid yma yn yr hwyaid. Yr oedd Twm wedi dywedyd wrthi amdano fwy na dwywaith na theirgwaith mewn geiriau braidd yn egr. Ond nid oedd hynny'n tycio. O'r diwedd, wedi diflasu, cymerodd Twm y gyfraith yn ei law ei hun, a gwnaeth garcharorion o'r troseddwyr yng nghytiau'r gwyddau yng nghrombil y clawdd o flaen ei dý. Fel y disgwyliai, daeth Margiad heibio toc, a mawr fu'r taranu a'r tafodi. Ni ddywedodd Twm ddim gair, ond cafodd yr hwyaid eu rhyddid, ac yntau lonydd am dridiau neu bedwar. Ond un prynhawn collodd Margiad ei da eilwaith, ac ar unwaith cyfeiriodd ei thraed am Ben y Bont, gan chwythu bygythion bob cam o'r ffordd. Pan ddaeth at y tŷ yr oedd y drws yn gaeëdig, a chytiau'r gwyddau yn weigion bob un. Wrth weled hynny trawodd i feddwl drwgdybus Margiad fod y llechgi gan Twm wedi cau yr hwyaid yn y tŷ. Yn llawn o'r syniad hwnnw aeth at y ffenestr i edrych a oedd rhywbeth i'w weld y tu mewn.
Nid oedd yno yr arwydd lleiaf fod yr hwyaid i mewn, ond yr oedd Twm wrth ryw orchwyl o bwys