oedd yn galw am ofal neilltuol a'i sylw i gyd. Yr oedd Margiad wedi clywed sôn am y gwaith peryglus hwnnw yn cael ei gario ymlaen mewn lleoedd eraill, a deallodd ar unwaith. A chan fod ganddi elyniaeth at Twm o achos yr hwyaid, heblaw rhyw fân gwerylon eraill, teimlai ryw lawenydd dieflig o fod wedi ei ddal yn torri cyfraith ei wlad. Dihangodd mor ddistaw ag y medrai, gan edrych tros ei hysgwydd bob teirllath o'r ffordd, rhag ofn bod llygaid Twm arni. Teimlai ryw euogrwydd yn ei hymlid, a phan ddigwyddodd ddyfod wyneb yn wyneb ag yswain Cymunod wrth droi i'r ffordd fawr, rhoddodd ei llaw ar ei chalon a gwaeddodd allan mewn tipyn o ddychryn.
Fel y digwydd yn fynych, arweiniodd miri bychan hwyaid Margiad y Crydd i helbul mawr yn hanes Twm. Ryw noson, gyda'r gwyll, yr oedd wrth ei orchwyl drachefn yn unigrwydd Pen y Bont, a heb fawr feddwl bod unrhyw berygl ar ei warthaf. Ar bentan y simdde fawr yr oedd padell bres o faintioli anghyffredin, a chan mai tri neu bedwar o foch a rhyw ddau neu dri o ebolion oedd holl dda byw Twm, naturiol ydoedd i ddyn dieithr geisio dyfalu pa beth oedd yr hylif oedd yn y badell.
Rhyw gip ar y badell hon a gawsai Margiad, a gwyddai hi yn burion beth oedd yn mynd ymlaen. Mewn rhyw hanner munud o syllu drwy'r ffenestr yr oedd hi wedi cael eglurhad cyflawn ar lawer o bethau oedd o'r blaen yn dywyll iddi hi ac i eraill, ac yn arbennig ar foddion bywoliaeth Twm bach. Ond pwy fuasai'n dychmygu, chwedl Margiad, y buasai'r gwalch bach yn gwybod sut i ddistyllio chwisgi, heb sôn am ei werthu heb yn wybod i'r seismon?
Gwelodd Twm ryw gysgod yn mynd heibio'r ffenestr, a chan feddwl mai un o'i gymdogion oedd yn troi i mewn, yr hyn na ddigwyddai yn fynych, cipiodd y caead pren a dododd ef ar wyneb y badell bres, a thaflodd sach dros hwnnw. Cuddiodd hefyd ddau neu dri o