Tudalen:Madam Wen.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn methu bwyta, ac yn methu gorffwys, ac eto bron a methu symud; yn ysgafn ei ben ac yn flin ei dymer; yn methu dirnad paham nad oedd pethau fel arfer. Catrin Parri yn awgrymu hyn, ac yn awgrymu'r llall, mewn poen meddwl, ac wedi mynd i ofni mai mynd o'i synhwyrau yr oedd Siôn.

Cynllun a chyngor Nanni oedd anfon ar unwaith am Madam Wen. Mi af i chwilio amdani fy hunan," meddai Nanni, a ffwrdd a hi.

Yr oedd Madam Wen ar gael. Nid oedd Nanni wedi ei gweled ers ysbaid, a thrawodd i'w meddwl ar unwaith y gwelai ryw gyfnewidiad yng ngwedd arglwyddes y Parciau. Gallai mai blinedig yn unig oedd hi. Ond yr oedd gan Nanni lygad craff, a gwelai fod rhywbeth ar ôl, a fyddai'n arfer bod yno. A phan ddywedodd ei neges, nid oedd unrhyw amheuaeth ym meddwl Nanni na chynhyrfodd hi fwy wrth glywed am Siôn Ifan yn wael na phetai wedi clywed am lawer un yn marw. Heb golli munud, cychwynnodd am Dafarn y Cwch, fel un yn gweled pob munud yn awr.

Barn Madam Wen oedd mai twymyn oedd ar Siôn Ifan, a than ei chyfarwyddyd hi rhoddwyd ef yn ei wely. Gwyddai pawb i ble i droi am y gelod gwaed pan fyddai angen amdanynt, ac aeth Nanni i Allwyn Goch yn ddioed. Cadwai'r hen wraig honno lysiau hefyd, a'u rhinweddau'n fawr ac yn hyglod. Pan ddychwelodd Nanni dygai gyda hi amryw lysiau crin, a chyfarwyddiadau pa fodd i'w trin a'u harfer, a dechreuwyd ar unwaith ar y gwaith o feddyginiaethu Siôn Ifan.

Ond noson derfysglyd oedd o'u blaenau, er na wyddent hynny. Wedi gwneud a allai, dychwelodd Madam Wen i'w chartref ger y llyn, gan adael y claf yng ngofal yr hen wraig a Nanni; a Dic wedi dyfod adref ac yn edrych ar ôl y ddwy.

Ryw dro yn y plygain deffrodd Siôn Ifan o gwsg terfysglyd, a gwaeddodd dros y tŷ mewn llais oedd yn annaturiol o gryf a chroch. Rhuthrodd Nanni i'r