Tudalen:Madam Wen.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ystafell fel mellten, a Chatrin Parri wrth ei sodlau mewn dychryn dirfawr. Deffrowyd Dic o gyntun ar y set hir.

Yr oedd yr hen ŵr wedi codi ar ei eistedd ac yn pwyntio'i fys i ryw bellter dychmygol. Yr oedd rhyw gynnwrf annaearol yn ei lygaid. Edrychwch acw!" gwaeddodd, nes bod y lle'n crynu.

"Beth sydd yna, Siôn?" meddai Catrin Parri, gan amcanu ei gael i dawelu. Ond ni chymrodd yr hen ŵr y sylw lleiaf ohoni.

Welwch chwi'r golau yna?" llefodd wedyn, nes gyrru rhyw gryndod arswydus trwy'r ddwy. Ni wyddai Dic beth ar y ddaear i'w wneud ohono.

"Mae rhywbeth du yn y fan acw!" meddai'r hen ŵr, mewn sisial croch. "Ni fydda ni fawr a phicio yno. Waeth i ni hynny!" A chyda'r gair gwnaeth ymgais i symud. Ond ar amnaid oddi wrth Nanni, daeth breichiau cryfion Dic i'w rwystro, a'r hen wraig yn ymyiryd orau y gallai.

"Colli arno'i hun yn lân y mae o, welwch chwi!" meddai Catrin Parri'n wylofus. Gorwedd di'n llonydd, Siôn. Mi fyddi di'n well yn union."

Ond nid oedd gan Siôn Ifan druan glust i wrando ar gyngor yn y byd. Yn nhraeth y llaerad yr oedd ei feddwl terfysglyd, ac ail—edrych yr oedd ei lygaid ar olygfeydd annymunol y noson annifyr honno pan alwyd ef o'i wely cyn yr amser gan wŷs o fyd yr ysbrydion. Daliodd Dic afael tyn ynddo nes mynd y storm honno heibio.

Ond nid llawer cynt yr ail-orweddodd nag y dechreuodd sibrwd wrtho'i hun mor gyflym fel mai ychydig o'r hyn a ddywedai a ddeallid. Mae o wedi bod yn ddychryn arswydus iddi hi . . . Taid annwyl!

Neithiwr yr oedd o acw cyn iached â minnau.. . a dyna fo'n gorff ar y traeth... Taid annwyl! . . . Diaist i Mynd adre fyddai gorau i ni!. Wybod ar y ddaear . . . Dydi hi ddim yn ddiogel yn y fan yma. . . Welwch chi hi! Mor fentrus ydi