hi! . . . Diaist ti! Mae arna'i ofn amdani hi! dda gen i Ond beth . . . Beth wybod! . . . Mi fuasai'n petai hi'n dyfod oddi yna ac adre wnewch chi! ... Un fentrus oedd Madam Wen erioed . . . Diaist i! Dyma hi yn dyfod!
Ymhen ennyd, a phawb yn ddistaw iawn, torrodd yr hen ŵr allan i wylo dros y tŷ, yr hyn a barodd i ddagrau Catrin Parri hefyd redeg yn hidl mewn cydym— deimlad. Wylai Siôn Ifan fel plentyn. "Wel! Wel!" meddai'n ddrylliog. "Ac mae wedi dyfod i hyn. o'r diwedd! Wil Llanfihangel yn llofrudd! Yn llofrudd! Taid annwyl! Yn llofrudd! A Robin hefyd! Dyma hi wedi mynd i'w chrogi arnom!"
Ar hyn neidiodd i fyny'n gyffrous, ac mewn llais cryf awdurdodol gwaeddodd nes ysgwyd y gwely, "Catrin! Ple mae Dic? Wyt ti'n fy nghlywed i? Ple mae Dic ac Ifan?"
'Crwydro mae'i feddwl o," sibrydodd Catrin Parri, ar golli ei gwynt gan ddychryn. Ond prin y clywodd Nanni na Dic sylw'r hen wraig. Gwyddai'r ddau'n reddfol, os mai crwydro'r oedd, mai gofal am ei feibion oedd wrth wraidd y gofyniadau. Gofal tad rhag ofn i'r gymdeithas lychwino'r meibion.
Am hanner awr ymhellach clywsant ef yn adrodd ac yn ail—adrodd ei brofiadau chwerw, fel o'r diwedd nad oedd dim yn ôl nad oeddynt yn ei wybod. Cafodd Catrin Parri esboniad llawn ar ymddygiad rhyfedd yr hen ŵr y dyddiau cynt; eglurhad cyflawn ar yr holl sefyllian diamcan a'r sibrwd wrtho'i hun, a'r crwydro. Yr oedd Dic mor fud a throed y gwely, ac yr oedd wyneb Nanni fel y galchen.
Ond o dipyn i beth arafodd y dwymyn o dan effaith y cyfferïau. Tawelodd y claf, ac o'r diwedd llithrodd i gwsg drachefn. Pan ddaeth Madam Wen heibio ar doriad y dydd, yr oedd ef yn cysgu, a'r hen wraig yn gwylied ei hunan. Sibrydodd wrth ei hymwelydd iddynt gael noson gynhyrfus iawn, a llawer o drafferth,