Ymhen tridiau, ac ar gyfer diwrnod agor y llys, aeth Morys i'w daith ar gefn ei geffyl du, a'i wyneb tua'r brif dref. Cychwynnodd yn gynnar er mwyn cael hamdden i deithio heb frys. Ar y ffordd rith— donnog, i fyny ac i lawr dros lednais fryn a phant, rhoddodd y ffrwyn a'i ffordd i Lewys Ddu, a'r ffrwyn hefyd i'w ddychymyg ei hun. Nid oedd yr helynt heb ei heulwen gan fod pob cam o'r ffordd yn ei gludo'n nes at wrthrych annwyl ei serch, ac yn nes hwyrach at sylweddoli ei obeithion dyfnaf.
Yr oriau hynny a dreuliodd ef ar ei daith, heb neb yn gwmni iddo ond ei fyfyrdodau a'i farch, treuliodd Einir Wyn yr unrhyw yng nghanol mwyniant plas yr Arglwydd Bwcle, gŵr annwyl a da a hoffid gan bawb trwy'r sir. Yr oedd yno amryw o wŷr pwysicaf Môn ac Arfon yn y Baron Hill y prynhawn hwnnw, canys yno'r arhosai'r barnwr. Yr oedd yno ferched bonheddig hefyd o'r un dosbarth, ac yn eu plith, ac ar y blaen mewn poblogrwydd, y wyryf deg o gyff y Wyniaid, a'i chwerthiniad iach fel awel bêr y bore.
Pe cyfrifid blynyddoedd ei yrfa weithgar, hynafgwr oedd y Barnwr Holt. Ond yr oedd ei galon yn ieuanc, a'i lygad yn siriol, er bod ei ben yn wyn, a'i gamau'n fân. Hoffai'r crebwyll parod, a'r gair ffraeth, ac wrth y safonau hynny y barnai ei gymdeithion. Ar gyfrif rhagoriaethau felly y cafodd Einir Wyn ran helaeth o'i ystyriaeth, ac nid oedd yno neb a warafunai iddi'r flaenoriaeth.
Yn fore drannoeth dechreuodd yr hen dreflan fach ymysgwyd ar gyfer diwrnod neu ddau o brysurdeb a phwysigrwydd. Dechreuodd pobl y wlad dyrru yno'n fân finteioedd o lawer cwr, rhai wedi cerdded Ilawer milltir ac wedi cychwyn o'u cartrefi pell cyn torri'r wawr. Wrth yr ugeiniau dylifent i mewn nes llenwi'r dref. O gylch hen neuadd y sir, dan furiau'r castell, ymdyrrent wrth y cannoedd. Yr oedd yno liaws o drigolion Niwbwrch, am fod gŵr o'r dref honno, a'i wraig, o dan gyhuddiad o beri achos