marwolaeth morwr mewn ysgarmes feddw un noson mewn tafarn.
Ond yr achos cyntaf i ddyfod gerbron oedd helynt gwalch o Landyfrydog oedd wedi blino'r wlad am gyfnod hir trwy wneud yn hy ar gaeau ei gymdogion a lladrata'u defaid. O'r diwedd yr oedd wedi ei ddal, a dyna lle'r oedd y bore hwnnw o flaen y Barnwr Holt, a thystiolaethau anwadadwy yn ei wynebu, a heb nemor un i'w gael a gydymdeimlai ag ef. Cafodd y dorf waed—flysig ei chynhyrfiad cyntaf pan ddaeth i ddeall bod y lleidr defaid wedi ei goll—farnu. A rhyfedd fel yr ymsiglai gan ryw ddiddordeb syn, gan suo fel haid o wenyn.
Y nesaf ar y rhestr oedd achos llances o forwyn blwyf Llantrisant. Daeth ton o gydymdeimlad dros y bobl pan arweiniwyd hi i'r llys yn wyneblwyd a chrynedig.
"Morwyn oedd Liwsi Huws ar fferm un Jonathan Jones," meddai un o wŷr y gyfraith wrth gyflwyno'r achos. Yna aeth ymlaen i adrodd hanes camwedd Liwsi Huws o bwynt i bwynt. Cariad oedd wedi ei themtio. Eiddigedd hefyd. Cariad at Jonathan Jones, ac eiddigedd o rywun arall. Hanes go salw a gaed i Jonathan Jones pan ddadlenwyd yr amgylchiadau. Hen lechgi diegwyddor oedd, heb fod yn werth y ganfed ran o'r serch a wastraffodd Liwsi druan arno. Mewn byr eiriau y trosedd y cyhuddid y garcharores ohono ydoedd rhoddi tâs o wair a berthynai i un Elin Rolant ar dân, mewn malais amlwg, a chyda'r amcan o niweidio yr Elin honno drwy ei gwneud yn dlawd.
Yn y man cododd un arall i adrodd ochr Liwsi, a gwelodd yn ddoeth roddi i'w arglwyddiaeth ddarlun llawn o'r hyn a ddigwyddasai. Oedd, fel 'roedd gwaetha'r modd, yr oedd Liwsi i raddau, neu o leiaf mewn enw, yn euog o'r hyn a ddywedid. Ond arhoswch! Os oes rhywun sydd yn chwannog i gondemnio, gwrandewch funud bach! A chwithau, f'arglwydd—doeth ac aeddfed eich barn—a chwithau reithwyr—teg a pharod