Tudalen:Madam Wen.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i wrando rheswm—clywch y ffeithiau cyn tynnu'r casgliad!

Cadwres tŷ Jonathan Jones oedd Liwsi Huws, a geneth dda a glanwaith, morwyn ddiwyd a fforddiol. Bu'n ddedwydd yn ei lle am amryw dymhorau, ac yng nghwrs amser aeth ei chyflogydd a hithau'n gariadon. Gan roddi llwyr ymddiried yn ei anrhydedd ef, carodd Liwsi gyda mwy o sêl na doethineb. Ond pan gurai ei chalon hi yn gynhesach nag erioed tuag ato ef, oerodd ei serch ef ati hi. Yr adyn diegwyddor iddo! Gesyd warth ar enw da dyn! Nid yn unig troes ei gefn arni hi yn ei chyfyngder, ond bu'n ddigon creulon i osod ei serch yng ngwydd gwlad ar berson arall—ac Elin Rolant oedd honno: hi'n amaethu, dealler, ar ei throed ei hun, a sôn ei bod yn dda'i hamgylchiadau. Gwaeddodd dwy ardal gywilydd, mae'n wir, ond i ddim pwrpas.

Ryw noson oer yn nechrau Mawrth, ac eira'n drwch ar y dolydd, cerddodd Liwsi bum milltir gefn nos nes dyfod at dyddyn Elin Rolant. Hwyrach mai crwydro fel hithau yr oedd ei synnwyr gwell y noson honno. Yr oedd ei thrallod yn fawr. Rhyw ddychymyg gwyllt a ddaeth i'w phen mai cyfoeth Elin oedd wedi dwyn bryd Jonathan. Pwy a wyddai nad allai daioni ddeilliaw o dlodi ei gwrthwynebydd! Yr oedd y blwch tân ynghudd ganddi. Yr oedd hi wedi rhedeg milltir o'r ffordd tuag adre, a'r dâs wair yn wen-fflam, cyn i'r un llygad arall weld yr alanas. Ond tystiai ôl traed yn yr eira pwy oedd yn euog, a daliwyd Liwsi.

Clywid ochenaid y dorf megis un gŵr pan dawodd y siaradwr. Galwyd y garcharores, ac addefodd y trosedd, a'i dagrau'n rhedeg. Anerchodd y barnwr y llys, ac eglurodd gyfraith y wlad i'r garcharores ac i'r bobl. Y pwnc mawr oedd beth ydoedd gwerth y golled. Os oedd y golled yn fwy o werth na deuddeg ceiniog o arian cyfreithlon, yna rhaid oedd rhoddi yr euog i farwolaeth. Beth oedd maint y golled? Galwyd ar Elin Rolant.