Tudalen:Madam Wen.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwraig raenus oedd Elin, radlon pan fyddai gartref gyda'i moch a'i gwartheg. Ond yr oedd arswyd y Ile hwn a'i helyntion wedi ei gweddnewid. Wrth edrych arni gellid meddwl mai arni hi, ac nid ar Liwsi'r oedd ofn dedfryd a dienyddiad. Rhedai chwys yn ffrydiau i lawr ei gruddiau, oedd yn awr yn welw, a thynnai ei hanadl fel un ar lewygu.

"Gwerth faint oedd y golled?" gofynnodd y barnwr yn dawel.

Gafaelodd Elin yn ymyl y bocs i'w chynnal ei hun rhag syrthio, a chydag ymdrech fawr dywedodd yn floesg, "Deg ceiniog!

Neidiodd un o wŷr y gyfraith ar ei draed. Gwrthwynebai ef yn bendant. Oedd hi'n beiddio dywedyd oedd hi'n disgwyl i rywun gredu ffiloreg felly? Tas fawr o wair, ac yn werth dim ond deg ceiniog! Ail—ystyriwch, wraig!" meddai'n chwyrn.

Ond cododd gŵr arall ar unwaith, a gofynnodd iddi'n addfwyn, A losgwyd y das i gyd?

Naddo, ddim i gyd!" atebodd Elin, ac eisteddodd yntau.

Edrychodd Elin o'i chylch mewn cyfyng-gyngor, a'r llys yn disgwyl am ei hateb eto. Y tu ôl iddi, ac o'i deutu i ba le bynnag yr edrychai, gwelai wŷr a gwragedd a adwaenai. Gwyddai fod ugeiniau eraill y tu allan, a phob un wedi tyngu i'w niwed ei hun y buasai'n tynnu Elin Rolant yn ysgyrion os coll-fernid Liwsi Huws. Beth a ddywedwch chwi?" gofynnodd y cyfreithiwr.

Mewn distawrwydd fel y bedd clywyd ei sibrwd hi eilwaith. "Deg ceiniog!"

Collodd gŵr y gyfraith ei dymer, ond meddai'r barnwr wrtho'n addfwyn, "Yr ydych wedi cael ei hatebiad ddwywaith drosodd. Clywsoch hi'n dywedyd hefyd na losgwyd y gwair i gyd. Ni ellwch ddywedyd mai pris tas o wair ydyw'r swm a enwir, ond mai gwerth y gwair a ddinistriwyd ydyw, yn ôl ei barn hi. A