Tudalen:Madam Wen.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hi ŵyr orau beth oedd maint ei cholled. Deg ceiniog ydyw hynny yn ôl y dystiolaeth."

Liwsi Huws! Yr ydych wedi eich cael yn euog o drosedd ysgeler yn erbyn cyfraith eich gwlad. Ond yr wyf am gymryd i ystyriaeth i chwi dreulio deufis mewn carchar yn barod

Yr oedd Liwsi mewn llewyg cyn i'r barnwr orffen. ei araith, ond yr oedd yno ddegau yn barod i godi llef o gymeradwyaeth pan ddeallwyd mai diwrnod o garchar oedd y ddedfryd. Aed ymlaen ar unwaith i alw'r achos nesaf. Tomos Wmffre o Lanychulched, a gyhuddid o ddistyllio gwirod yn groes i gyfraith ac yn erbyn heddwch ei Fawrhydi'r Brenin.

Daeth Twm i'r llys â gwên ar ei wyneb. Edrychodd o'i gwmpas i weld a oedd rhywun o'i gydnabod yno, a'r cyntaf a welodd oedd yr yswain mawr ei gorff, ond llawn cymaint ei drallod ar y pryd. Gydag amnaid a gofiai Morys yn dda gwnaeth Twm ymgais fud i ddywedyd o bell ei fod yn ddigon tawel a bodlon, doed a ddelai.

"Pwy sydd yn cyhuddo?" gofynnodd y barnwr, wedi ennyd o ddistawrwydd heb neb yn codi i siarad.

Yr oedd Morys wedi eistedd yn y llys trwy gydol y dydd, heb damaid na llymaid, rhag digwydd i achos Twm ddyfod gerbron ac yntau'n absennol. Yr oedd wedi dal i edrych yma ac acw, i bob cwr a chongl o'r neuadd, mewn ymchwil am Einir ond heb ei gweled. Ond nid cynt y tynnodd ei olwg oddi ar Twm, i chwilio fel eraill am y rhai a'i cyhuddai, nag y gwelodd hi'n sefyll gerllaw â gwên ar ei hwyneb—gwên, fel y tybiai ef, o ddireidi.

Ni wyddai'r un o'r cyfreithwyr ddim am yr achos hwn, ac nid oedd gwŷr y llywodraeth ar gael ychwaith. Disgwyliodd y barnwr ddeng munud tra rhedai cenhadon yma a thraw mewn ymchwil frysiog am y rhai oedd i ddwyn tystiolaeth o drosedd Twm. Rhedwyd yma a rhedwyd acw, ond ni chafwyd gair o'u hanes yn unman. Aeth y llys i anhrefn, a bu gorfod galw