Tudalen:Madam Wen.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XV.

GADAEL YR OGOF

AM a wyddai Siôn Ifan, nid oedd yr hyn a bwysai mor drwm ar ei feddwl ef yn wybyddus i neb arall ond un, canys ni chofiai ddim am yr hyn a ddywedasai pan oedd o dan ddylanwad y dwymyn. Ond un o effeithiau amlycaf ei waeledd arno oedd pentyrru mwy o olion henaint mewn un mis nag oedd wedi disgyn i'w ran mewn deng mlynedd cynt. Rhwng gwendid corff a phoen meddwl collasai lawer o'i hen ynni, a chwith oedd gan Dic ei fab ei weld wedi "torri' cymaint; ond yr oedd yn rhaid rhoddi'r bai, er mwyn bod yn heddychlon, ar y crydcymalau: a dyna fu.

Ond mynnodd Dic ei ffordd ei hun, drwy roddi pob gwaith arall i fyny a dyfod adref i gymryd siars o'r dafarn am ysbaid. Cymerodd gymaint o ofal fel dirprwy geidwad urddas Tafarn y Cwch nes boddhau Siôn Ifan yn fawr. Ymfalchïai'r hen ŵr yn ei fab yn ddistaw, a bu'n lles i'w iechyd. Un noson gwelodd yn dda adrodd yn wyliadwrus wrth Dic holl hanes yr hyn a welsai ar y llaerad, a chymerodd yntau arno na wyddai ddim o'r helynt o'r blaen. Ond amcan yr hen ŵr oedd annog Dic yn daer ar iddo beidio ag ymhel mwy â Wil a Robin y Pandy.

"Does dim a wnelo i â hwy," meddai Dic.

"Da iawn! Mae'r ddau'n ddieithr yma ers tro, ond mi glywaf eu gweld hyd y fan yma fel dau aderyn y nos.'

Disgrifiad lled gywir o Robin a Wil y pryd hwnnw oedd eu galw'n adar y nos. Daethai'r gwyll i ddygymod â'r ddau'n well na golau dydd. Gwyddai Dic hynny cystal â'i dad, ac yr oedd tipyn o chwilfrydedd ynddo am wybod pa ddrygioni pellach oedd ym mryd y ddau. Nid oedd yn ôl ychwaith o borthi'r chwilfrydedd hwnnw trwy gadw gwyliadwriaeth gyfrin ar eu symudiadau.