Tudalen:Madam Wen.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac nid oedd neb yn y wlad yn fwy cymwys i gyflawni gorchwyl felly na Dic.

Nid mewn undydd un-nos y tyfodd y syniad rhwng Wil a Robin mai'r cam nesaf a fyddai ysbeilio Madam Wen ei hun. Nid oedd diwallu ar eu rhaib erbyn hyn. Tarddodd y syniad allan o'r grwgnach mynych o achos bod y gêl-fasnach wedi arafu, a'r teithiau ysbeiliol wedi peidio â bod. Cam byr oedd o hynny hyd at goleddu dygasedd ati hi ei hun. Wedi'r ysgelerwaith ar y llaerad caledodd eu calonnau fwy-fwy, a chawsant hwy eu hunain wedi eu neilltuo'n gwbl oddi wrth bawb arall o'r hen fintai. Ond barnent mai antur a pherygl ynglŷn â hi a fyddai ysbeilio Madam Wen. A gwyddenť na byddai troi yn ôl wedi unwaith gychwyn ar yr antur honno. Ac os byddai raid mynd i'r pen, a gwneud yr un modd â hi ag y gwnaed â'r teithiwr hwnnw ar y tywod, boed hynny. Pa wahaniaeth a wnâi un yn rhagor?

Un noson pan oedd pob rheswm dros dybied bod pawb arall yn ei wely, eisteddai Wil mewn congl o'i fwthyn, ac yn ei ddwylo lestr pridd ag ynddo fân sypynnau o ddarnau aur ac arian ynghyd â chyfran o'r gemau a'r tlysau a fu unwaith yn eiddo John Ffowc y teithiwr. Yr oedd wedi treulio dwy awr y noson honno yn cyfrif yr aur a'r arian ymhob sypyn, ac yn troi ac yn trosi'r trysor arall, ac yn awr eisteddai'n llonydd yn unigrwydd tywyll ei gell yn sugno rhyw bleser rhyfedd o'u cymdeithas fud. Ofnai glywed neb yn dynesu i dorri ar ei ddirgeledd. Disgwyl yr oedd nes iddi fynd yn rhy hwyr i neb fod ar gyffiniau'r parciau.

O'r diwedd cododd yn ddistaw ac agorodd y drws. Safodd am ysbaid i glustfeinio. Wedi ei fodloni ei hun y byddai'n ddiogel iddo gychwyn, cymerodd raw mewn un llaw a'r llestr pridd yn y llall, ac ymaith ag ef fel cysgod tua'r goedwig. Wedi penderfynu cuddio'r trysor yr oedd, rhag digwydd rhyw ddamwain pan wnai Robin ac yntau ruthr ar yr ogof.