Tudalen:Madam Wen.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arhoswch chwi!" meddai Wil yn hy, "Mi af fi i chwilio'r ogof, a chaiff Robin ofalu y byddaf yn cael llonydd."

Ar hyn aeth ef ymlaen, ac i mewn. Safai hithau'n llonydd, a Robin ryw ddegllath o'i hôl â'i lygaid arni. Erbyn hyn sylweddolai hi ei pherygl yn llawn, a gwibiai syniadau rhyfygus drwy ei meddwl. Ofnai nad oedd dim ond brad a chreulondeb i'w disgwyl oddi ar law dau ddyhiryn fel y rhain, ac na byddai gwaeth iddi wneud yr ymgais na pheidio. 'i llygad ar bob ysgogiad o eiddo Robin, meddyliodd o'r diwedd y gwelai ei chyfle. Llithrodd ymlaen yn ddistaw i gyfeiriad yr agen. Yr oedd hi bron ar y trothwy pan ddeffrôdd synhwyrau Robin. Saethodd, a chwympodd hithau'n llonydd ar y glaswellt.

Cerddodd Robin yn araf i'r fan, heb ddangos cynnwrf yn y byd. Yr oedd wedi ymgaledu. Gwelodd bod ei hwyneb wedi gwelwi. Gafaelodd ynddi a chafodd mai sypyn diymadferth oedd yn ei ddwylo. Gwelodd hefyd fod ei gwisg sidan hardd yn goch gan waed. Y syniad cyntaf a ddaeth i'w feddwl oedd nad oedd angen gwylied yn rhagor, a chan nad oedd ganddo lawer o ffydd yn uniondeb ei gyd-leidr barnodd mai myned ar ei ôl i'r ogof i weld drosto'i hun a fyddai'r doethaf. A dyna fu.

Er i Morys Williams glywed sŵn ergyd heb fod ymhell, ni ddaeth i'w feddwl y munud hwnnw bod hynny'n arwydd o unrhyw drychineb. Yr oedd wedi prysuro i ddyfod i'r parciau, gan amcanu bod yno rhag y byddai galw, ond nid ystyriai y gallai eisoes fod yn rhy ddiweddar. Dewisodd lecyn agored yn ymyl y llyn, gadawodd Lewys yn pori yno, a cherddodd ei hunan rhagddo. Ond pan ddaeth dros y bryncyn i olwg yr ogof gwelodd rywbeth a barodd iddo gyflymu ei gerddediad; ac ar redeg daeth i'r fan. Gorweddai Madam Wen yn llonydd lle y syrthiasai, a gwelodd yntau mor welw oedd ei gwedd. Gwelodd hefyd fel yr oedd gwaed wedi cochi ei gwisg. Gofidiai ei