Ni bu Wil yn hir cyn i'w lygaid craff ganfod perygl yn y pellter. Symudai'n wyliadwrus, ar dir cynefin. Heb fod ei hun yn weledig canfu yswain Cymunod yn dynesu fel un o dduwiau dial. Ymgladdodd ar unwaith yn y prysglwyni tewion.
Y pryd hwnnw y daeth i ddeall dirgelwch symudiad Madam Wen. Daeth i'w feddwl hefyd mai brad Nanni oedd i gyfrif am hyn i gyd. Ac yn y lle'r ymguddiai aeth i bwyllog ystyried ei sefyllfa. Yr oedd yn eglur bod pethau wedi dyfod i'r pen yn y parciau, ac y byddai o hyn allan ddylanwadau yn ei erbyn ef na byddai modd eu hosgoi. Nid rhyfedd oedd iddo ddyfod i'r casgliad cyfrwys mai dianc yn ddioed, a gadael Robin i gymryd ei siawns, a fyddai'r diogelaf iddo ef. Am hynny trodd ei wyneb tua'r môr, a'i gefn ar lyn ac ogof a bwthyn, ac ymlwybrodd yn wyliadwrus ymlaen dan gysgod yr eithin, a chan ddisgwyl nos i guddio'i symudiadau pellach.
Yn ei dro gwelodd Robin hefyd yr yswain yn dynesu, a rhywbeth yn ysgogiad hwnnw yn arwyddo bod ei neges yn un erch. Troes yntau ar ei sawdl, a dechreuodd gerdded ymaith. Yr un adeg gwelodd yr yswain Robin, a dilynodd ef yn bwyllog a didwrw. Ni ddaeth i feddwl y lleidr i sefyll ei dir, a gwadu'r bai. Cerddodd ymaith, gan gymryd y camwedd arno'i hun fel pe'n ddiarwybod. A theimlai'r yswain ymhob cymal o'i gorff mai llofrudd oedd hwn a symudai o'i flaen.
Yr oedd Robin yn rhy ystyfnig ei natur i fradychu brys, ac am hynny ennill tir a wnâi'r yswain. Hwyrach mai dyna a wnaeth i Robin o'r diwedd droi o'i lwybr a thorri ar draws at fin y gors.
Ar dywydd sych yr oedd llwybr o ryw fath drwy'r gors, a'i ben rywle yn y fan honno. Sarn ydoedd ac heb fod yn hawdd na diogel i'w cherdded, ar ambell garreg ac ar wreiddiau cryfion yr hesg ac yma ac acw ar foncyffion hanner pydredig coed, gyda gorffwys yn awr ac eilwaith ar ddernyn caletach o ddaear. Ond o'r ddeutu, ac ar bob llaw, yr oedd y donnen