Tudalen:Madam Wen.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddu, megis heb waelod i'w haflendid. Llwybr ydoedd y gallai'r cynefin anturio arno ar adeg briodol, ond magl angeuol i un dieithr ar unrhyw adeg. Am hwn y chwiliai Robin, gan hyderu cael ymwared felly o'r hwn a'i hymlidiai.

Gall mai ffwdanu a wnaeth yr adyn, a cholli pen y llwybr wrth weld yr yswain mor agos ato. Sut bynnag am hynny, daeth o'r diwedd i'w unfan mewn magl rhwng y siglen dwyllodrus ag wyneb serth craig o'i flaen. Daeth y llall i'r fan hefyd, a golau yn ei wyneb yntau a awgrymai'n eglur y gallai bod awr olaf un o'r ddau wedi dyfod.

Mor dawel oedd diwedd y dydd, heb awel yn symud na sŵn i'w glywed ond su ambell i wenynen oedd yn hwyr noswylio. Yr haul ar i waered tua'r mynydd Twr, a'r byd yn llonydd. Noswaith hafaidd ac amgylchoedd hyfryd, ac eto nwydau dinistriol yn cyniwair yng nghanol yr hyfrydwch.

A'i gefn at y gors safodd Robin fel rhyw fwystfil mawr wedi ei gornelu ac ar fin ymosod, cynddaredd a braw yn ei edrychiad. Yr oedd yn ddyn corffol; ei gefn yn llydan, a'i freichiau'n nerthol os yn afrosgo. Ni ddywedodd Morys air, ond darllenodd Robin ei fwriad, ac aeth ei law i'w logell am un o law—ddrylliau Madam Wen. O fewn pumllath i'w nod saethodd. Ond daeth y llall ymlaen gyda naid, fel un a wawdiai fân deganau diniwed felly. Taflodd Robin y dryll i'r llawr, ac ymbaratodd.

Morys oedd y talaf a'r ystwythaf, ond i gyfarfod hynny yr oedd i Robin ddyrnau fel cerrig a natur mor gignoeth â dywalgi. A gwastad fu'r ymladdfa am ysbaid, y taro ffyrnig a'r osgoi deheuig.

Un dyrnod deg gan Morys a fuasai'n llorio Robin er lleted ei gefn, a gwyddai yntau hynny'n burion. Yr oedd ei freichiau'n dduon o gleisiau ers meityn. Ymladdai'r yswain gyda gofal neilltuol. Yr oedd wedi taro ar y nesaf i'w hafal mewn nerth braich a welsai erioed, ac yn gwybod hynny. Gwyddai hefyd ei fod