yn eu herbyn yn ei regi yn enbyd. Buan y canfu, yng ngolau'r lleuad, mai Dic Tafarn y Cwch oedd un o'r rhai blaenllaw yn y canol, ac yn ôl pob tebyg mai setlo'r cweryl yr oedd efo Twm Pen y Bont. Wrth weled hyn, ymwthiodd Wil drwy'r dyrfa nes dyfod i'r fan.
Rhywfaint o dan bum troedfedd oedd hyd Twm, ond gan fod ei led heb fod ymhell o hynny, nid hollol deg oedd ei alw yn Dwm bach. Yr oedd ei gefn, o ysgwydd i ysgwydd, yn llydan fel drws ysgubor, a'i freichiau yn hynod o hirion, ac yn cyrraedd at bennau ei liniau. Yr oedd ganddo galon llew, a gewynnau arth. Yr oedd y gwaed a orchuddiai un ochr i'w wyneb yn braw fod dyrnau meibion Siôn Ifan wedi bod hyd—ddo droeon. Ond safai Twm fel craig, yn bwyllog ac ystyfnig. Er bod amryw o'r edrychwyr yn gweiddi am chwarae teg iddo, yr oedd Meic yn cynorthwyo Dic gymaint ag a allai, a Thwm yn gorfod wynebu dau.
"Tâl iddo fo, Dic!" gwaeddai Wil. "Lladd o i'w g——". Anaml y siaradai Wil heb lw fel clo ar ei ymadrodd.
"Cau di dy geg!" meddai hwsmon Tre Hwfa, pen ymladdwr Bodedern, gan droi at Wil fel llew, a bygwth ei larpio. Ond gafaelodd dau neu dri o'i gymdeithion ynddo yntau, yn benderfynol o'i atal, os gallent, rhag myned i helynt llanciau'r Dafarn. Nid gwaith hawdd fuasai hynny ychwaith onibai i Wil wrthgilio'n fuan o afael y bygythiwr.
Glawiai dyrnodiau celyd ar fron Twm bach mor ddieffaith a phetai honno yn blât o bres. Daliai ei freichiau hirion yntau i droi fel esgyll melin wynt. Anturiodd Meic gam yn rhy agos, a daeth i wrthdrawiad brwnt ag un o ddyrnau Twm, a chlywyd ef yn tuchan, ac mewn eiliad ysgubai droedfeddi o'r llawr. Rhuthrodd Dic i'r adwy, ond cafodd yntau ddyrnod a ddaeth a thywyllwch dudew i'w wybren heblaw sŵn dyfroedd lawer i'w glustiau. Curwyd dwylo yn y dorf. Yr oedd Twm bach yn dal ei dir.