Ond dadebrodd Dic, a chododd Meic, wedi ymgynddeiriogi. Aeth y gweiddi o'u cylch yn fyddarol. Neidiodd Meic am Twm fel cath i'w hysglyfaeth, a gwelwyd Dic a Wil Llanfihangel yn ei helpu. Rhwng y tri caed Twm i'r llawr, a phlannodd Meic ei ddannedd yn ei glust, tra ffustiai y ddau arall.
Aeth y twrw o amgylch hwsmon Tre Hwfa yn fwy nag erioed; hwnnw, â llwon bygythiol, am fynnu ymyrryd; am fynnu cadw chwarae teg i'r bychan fel mater o egwyddor, ei gyfeillion yr un mor benderfynol o'i gadw allan o'r twrw, egwyddor neu beidio. Clywyd
y dwndwr o'r tŷ, a rhuthrodd pawb allan ond Siôn Ifan.
"Codwch o! Chwarae teg! Maent yn ei ladd yn siwr! Tri yn erbyn un! Chwarae teg! Codwch o!" Dyna a glywid o ddegau o eneuau ar unwaith. Ond nid oedd neb a ymyrrai.
Ar hyn daeth gŵr dieithr Siôn Ifan i'r fan, gan dorri'r dyrfa'n ddwy yng ngrym ei bwysau enfawr. Clywyd ei lais uwchlaw'r dadwrdd a'r oernadau, ac wrth weled ei ysgwyddau eang yn uwch na phennau pawb arall, aeth rhai hanner meddw i ofni mai rhyw ddialydd goruwch—naturiol oedd wedi dyfod.
Gafaelodd yn y pentwr dynionach a chododd hwynt oddi ar y llawr fel y cyfyd dyn gowlaid o raffau gwellt. Ysgydwodd hwynt i'w gwahanu fel y chwâl dyn ysgub o yd. Ciliodd y dyrfa ofergoelus yn ôl, mewn dychryn ac ofn. Daliodd yntau afael ar Twm Pen y Bont, a gosododd ef ar ei draed. Yr oeddynt wedi baeddu llawer ar y bychan. Nid oedd arlliw o'i wyneb i'w weled gan waed a llwch, ac yr oedd ei ddwylo yn resynus. Prin y gallai symud gan gloffni.
Safai Dic a Meic fel dau ddaeargi yn barod i ail— ymosod, ac yn gwylied eu cyfle. Ac wedi i Wil ei hel ei hun at ei gilydd dechreuodd yntau roddi tafod, yn ôl ei arfer, i'r dyn mawr.
"Pwy wyt ti?" meddai hwnnw'n ddigyffro. "Dos di adre'n ddistaw rhag digwydd a fyddo gwaeth i ti."