Tudalen:Madam Wen.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chwarddodd y dorf o glywed hyn, a ffromodd Wil o'i weld ei hun yn destun chwerthin. Gwnaeth ystum i daro. Ond gosododd y mawr un grafanc anferth yn ei war, a'r llall rywle yng nghymdogaeth ei feingefn, a chododd Wil ar hyd ei freichiau, fel codi cath, yng nghanol chwerthin byddarol y dyrfa oriog. Gwingai Wil rhwng daear ac awyr, a rhegai'n ddigywilydd. Symudodd y gŵr dieithr yn nes i'r clawdd, a'r dyrfa'n rhuthro'n frysiog oddi ar ei ffordd. Gwelwyd ei freichiau nerthol yn cyhwfan, a Wil Llanfihangel yn ehedeg dros y gwrych i'r cae mor drwsgl â hwyaden.

Caed ef yn griddfan, wedi torri asen neu ddwy, ond yn dal i dywallt melltithion dychrynllyd ar ben y gŵr a gynlluniodd ei daith ddrychinebus. Safai Siôn Ifan yn nrws y tŷ yn dyst o ddiwedd disymwth yr ymladdfa, ac erbyn hyn yr oedd wedi dyfod i wybod pwy oedd y gŵr bonheddig, ond ni ddywedodd air am hynny wrth ei feibion.