Tudalen:Madam Wen.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.
YR YSWAIN A'I FARCH

YR oedd darn o ystad Morys Williams, Cymunod, ym mhlwyf Trefdraeth, a'r rhent yn ddyledus. Un o deulu'r Chwaen oedd Morys o du ei dad, ac o du ei fam perthynai i deulu Cwchwillan. Ond dyn dieithr oedd ym Môn, newydd ddyfod i feddiant o'r tir, ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth wedi dyfod i Gymunod oedd ymweled, fel y gwelwyd, â gwyl mabsant Llanfihangel. Yno, yn ddiarwybod, digiodd ddau neu dri o lanciau a gyfrifid ymhlith dilynwyr Madam Wen.

Y diwrnod ar ôl yr ŵyl haerai calon dyner Morys wrtho iddo ymddwyn braidd yn llvm tuag at y dyn a aeth dros y gwrych i'r cae mor ddiswta. Gan deimlo felly cyfrwyodd ei farch ac ymaith ag ef eilwaith am dŷ Siôn Ifan.

Dydd da i chwi, syr," meddai Siôn Ifan yn wyliadwrus. Beth wyddai neb ar ba neges y daethai'r gŵr mawr ?

Dydd da," meddai yswain Cymunod, a heb gwmpasu: "Carwn weld y gŵr ifanc hwnnw—y— syrthiodd dros y clawdd neithiwr. A wyddoch chwi pwy oedd y dyn ?"

Un o nodweddion Siôn Ifan oedd medr ar lenwi bylchau ymddiddan tra byddai'n cymryd hamdden i ystyried. Daethai'r gofyniad braidd yn ddirybudd, a doeth fyddai cael ennyd i ystyried cyn ateb.

Clywais rai o'r bechgyn yn sôn neithiwr," meddai, "ond mae'n bwnc gennyf a ddwedwyd pwy oedd o. Aroswch chwi, syr, yr oedd Wil Prisiart y Bryn yn sôn am y peth y bore yma. Ie, Wil Prisiart, nid neb arall, os wy'n cofio'n iawn, oedd yn sôn. Ie, syr, mab y Bryn ddwedodd wrthai'r bore pan oeddwn i 'n bwydo'r moch. 'Roedd o 'n mynd a llwyth o yd i'r felin. Rhyw lefnyn o Roscolyn ddywedodd o, os wy'n cofio'n iawn