Tudalen:Madam Wen.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â chyrrau eithaf Llŷn, a byddant yn fynych yn Arfon ac Eifionydd. Cenawon beiddgar ydynt, ufudd i'w gorchymyn lleiaf, a hynny, meddir, nid yn hollol er mwyn elw iddynt eu hunain, ond oherwydd y dylanwad rhyfedd sydd ganddi arnynt."

Rhyfedd iawn," meddai Morys, amheus hefyd." "Gall mai ie," atebodd Syr Robert. "Tebyg nad ydyw'r dyhirod heb elwa ar eu ffyddlondeb iddi, achos cyfrifir iddi, ymysg pethau eraill anghyffredin, ryw uniondeb rhyfedd er gwaethaf pob camwri arall ynddi. Dywedir amdani y bydd yn dal clorian deg rhwng y smugglers a'u cwsmeriaid, a gwae fydd i hwnnw, boed was boed estron, a amcano dwyllo yn ei henw hi."

Ar hyn daeth y ddau i'r neuadd eang, lle yr oedd llawer o'r gwahoddedigion eisoes wedi ymgynnull ar gyfer y ddawns. Tynnai person ac arddull Morys sylw llawer, ac am ysbaid bu'r barwnig yn brysur yn cyflwyno'r gŵr ieuanc i rai nad oeddynt yn ei adnabod. Yr oedd yno eraill oedd yn hen gydna— byddion iddo, er bod amser wedi cyfnewid llawer arno ef ac arnynt hwythau.

Difyr oedd cymdeithas o'r fath, a boddhad oedd gweled gwisgoedd amryliw'r dynion a chlywed siffrwd sidanau gorwych y merched. Saesneg oedd ar bob gwefus o'r bron, ac nid oedd ryfedd i Morys droi yn chwim wrth glywed rhywun yn ei ymyl yn siarad Cymraeg dilediaith, mewn llais dymunol.

Gwelodd ddau lygad chwareus y tu ôl i wyntyll o ifori, a syllodd ar eu perchen mewn edmygedd mud; syllodd mor hir nes ofni ei fod yn ddifoes wrth wneuthur hynny. Ond ni bu'n hir wedyn heb gael yswain y Penrhyn i'w gyflwyno i'r ferch harddaf a welsai erioed.

'Morys Williams o Gymunod ym Môn,' " meddai Syr Robert, a gwenodd hithau wrth ymgrymu.

Ac wrth Morys, "Eich cares, Einir Wyn "O le yn y byd!" ychwanegodd hithau ar ei draws yn ddireidus.