Tudalen:Madam Wen.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

theimlai'r cawr ei wallt yn codi gan arswyd am ei thynged hi. Anghofiodd ef ei hun a'i farch, a'i lygaid yn hoeliedig arni hi, a sŵn y garlam feiddgar yn codi atseiniau o'i gylch yn nhawelwch y nos. Gwelodd gwmwl o lwch, a chlywodd sŵn fel sŵn ystorm yn y pellter, ac fel pe'n casglu nerth wrth ddynesu, nes Îlenwi'r holl awyr â tharanau, fel y llithrai'r cerrig i lawr y llethr.

Ar gwr yr adwy ofnodd Derlwyn a disgynnodd Morys mewn pryd, a'r funud nesaf, y tu hwnt i'r perygl, chwifiai Einir gadach gwyn fel arwydd diogelwch. Cafodd Morys ei anadl ato eilwaith, ac aeth ymlaen ar hyd y llwybr brau, gan arwain Derlwyn yn araf a gofalus gan wybod y buasai un cam gwallus yn hyrddio'r ddau ar unwaith i'r dyfnder oedd yn ddigon erchyll i ddychryn y glewaf.

I'r cyfrwy unwaith eto, ac i lawr yr ael tua'r Penmaen Bach ar lwybr oedd cynddrwg a'r llall. Yr oedd Morys yn farchog profiadol, a'i ddawn yn fawr, ond er hynny da oedd ganddo glywed mai ar hyd ffordd arall y bwriadai ei gydymaith ddychwelyd.

"Mae yma lwybr yn arwain i'r traeth," meddai wrtho. Beth a feddyliech chwi o fynd yn ôl ar y tywod?"

"Gwell o lawer na'r clogwyni!" atebodd yntau o'i galon.

"O—ho!" chwarddodd hithau. Gwron y llwybr diogel a hawdd, aie?"

Fy nghares deg," meddai yntau'n bwyllog, heb gymryd sylw o'r ysmaldod, 'boed ynteu fy enw Wron y Llwybr Hawdd, ond, a gwneud cyffes lawn, er nad oes antur ar wyneb daear na wynebwn hi yn llawen ar eich gorchymyn lleiaf chwi, ni hoffwn er dim eich gweled eto yn rhyfygu fel y gwnaethoch."

Yr oedd y pwyslais lleiaf yn y byd ar y gair" chwi," ac ni allai hi osgoi yr awgrym. "Maddeuwch imi fy nghellwair ffôl," meddai. "Yr wyf yn dewis y llwybr hwn, ac ni fynnwn yr un ffordd arall heno. Mae