Tudalen:Madam Wen.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

unwaith dros y Penmaen yn llawn digon mewn un noson."

"Yr oeddwn wedi bwriadu eich ceryddu," meddai yntau, am ryfygu cymaint, ond bod arnaf eisiau edmygu yn gyntaf. Yr wyf yn cofio i mi pan oeddwn yn fachgen weled eich tad, a chofiaf fel yr edmygwn ei ddull yn y cyfrwy

"Fy nhad!

Dywedai rhywbeth yn ei llais ei fod wedi cyffwrdd tant tyner. Teithient ochr yn ochr, a thybiodd iddo'i gweld hi'n sychu deigryn ymaith. Daeth hynny a theimlad dwys i'w fynwes yntau, ond cyn iddo gael gair ymhellach trodd Einir ato, a dywedodd ychydig yn gyffrous, Rhyfedd i chwi gyfeirio at fy nhad, druan. Mae wedi bod yn fy meddwl—wn i ddim paham —amryw weithiau heno

Siaradai yn gyflym ac isel, a gwrandawai yntau heb ddywedyd dim, gan deimlo mai dyna a ddymunai hi. Ni wn i ddim paham y daeth i'm meddwl mor fynych heno. Ond yr wyf wedi bod yn meddwl fel y bu ef yn disgwyl—disgwyl—disgwyl am i'w wybren oleuo, disgwyl am flynyddoedd, nes y torrodd ei galon. Gall na chlywsoch chwi ddim fel yr anrheithiwyd eiddo fy nhaid gan y Pengryniaid atgas. Y cwbl a adawyd i'm tad oedd ei enw—a'i falchter."

Eisteddai'n syth ar y cyfrwy, a'i phen yn uchel, ond treiglai dagrau i lawr ei gruddiau. Ni fedrai yntau dewi yn hwy. Teimlai raid arno i ddywedyd wrthi yma ac ar unwaith fel y carai hi—mai hi oedd yr un y bu ei galon yn breuddwydio amdani; iddo wybod hynny y munud cyntaf y clywodd ei llais yng nghastell y Penrhyn.

Amser rhyfedd ac amgylchiadau rhyfedd i ŵr eu dewis i adrodd ei serch, ond er na wyddai ef hynny, ni buasai Einir ei hun yn gallu dewis ffordd a fuasai'n fwy cydnaws â'i natur ryfedd hi ei hun. Am ysbaid ni ddywedodd hi air mewn ateb, ac ymsaethodd syniad anesmwyth drwy ei feddwl yntau. Tybed a oedd