Tudalen:Madam Wen.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef wedi peidio â'i digio hi â'i addefiad byrbwyll? Heb ond ychydig o oriau er pan ddaethai i'w hadnabod, a oedd hi yn peidio â gweled amarch yn ei eiriau parod?

"Ofnaf imi eich nid aeth ymhellach. o serch yn ei hwyneb.

digio. . . meddai. Ond Gwelodd wên o dynerwch ac

"Myfyrio yr oeddwn. Meddwl yr oeddwn mor hawdd fyddai i minnau ddysgu caru Morys Williams pe bawn yn rhydd i wneud hynny. Ond . . . .

Teimlai Morys fod y goleuni'n ymadael, a nos yn dyfod i'w fywyd ar drawiad llygad. "Yr ydych wedi eich dyweddïo?" meddai, yn fwy wrtho'i hun nac wrthi hi.

Wedi fy nyweddïo, fy nghâr, nid i ddyn ond i adduned. Pan oedd fy annwyl dad yn marw mewn tlodi, gwneuthum adduned y buaswn yn mynnu ennill yn ôl y tir a ladratawyd oddi arnom gan ein gelynion, ac nid ydyw'r adduned eto wedi ei chyflawni."

Dynesent at y tŷ, ac nid oedd amser i glywed mwy. Carwn wybod llawer mwy am hyn," meddai wrthi. "Pa fodd y gellwch chwi heb gymorth ad—ennill y tir? Yn wir, hoffwn yn fawr gael gwybod mwy."

Ryw dro—fe allai!" meddai hithau.

Wedi rhoddi'r meirch mewn diddosrwydd, aeth Morys i'r tŷ, ond er chwilio ymhobman am Einir ni chafodd hi. Aeth yntau i'w ystafell i fyfyrio uwchben adduned ryfedd y ferch a garai, gan fwriadu ail—ofyn am fanylion yn y bore.