Tudalen:Madam Wen.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV.

AWDURDOD YR OGOF

YR oedd yn noson dywyll; glaw mân a niwl wedi gordoi Llyn Traffwll a'r cylch. Ffolineb i neb ond rhai cyfarwydd fuasai anturio i barciau Traffwll ar y fath noson, ond gwyddai Nanni Allwyn Ddu ei ffordd yn dda drwy'r goedwig eithin, ac ymlwybrai dros ffos a thrwy gors gyda hyder un oedd gynefin. Cyn hir daeth at fwthyn tlodaidd a safai ar godiad tir ar gwr y parciau ac yn ymyl y gors.

Cai'r bwthyn yma y gair o fod yn breswylfod Wil Llanfihangel, ond ychydig o arwyddion oedd arno ei fod yn drigfa i neb. Yr oedd digon o arswyd ei amgylchoedd gwyllt ar ddieithriaid i'w cadw draw, a diau na chymerai cydnabod Wil lawer o hyfdra. Ac o ganlyniad yr oedd y bwthyn, er eiddiled ei furiau hen, lawn cystal â chastell i Wil.

Yr oedd Nanni o fewn pumllath i'r drws cyn y medrai weled golau egwan y gannwyll frwyn, gan mor niwlog oedd y nos. Curodd ar y drws yn ysgafn. Ond nis agorwyd. Clywodd Nanni drwst rhoddi pethau yn eu lle yn frysiog. A chan nad hwn oedd y tro cyntaf iddi gael profiad tebyg, daeth i'r casgliad cywir mai cist ddu Wil oedd ar ganol y llawr, ag angen ei symud o'r neilltu a'i chuddio cyn agor y drws i neb.

Ni buasai neb yn credu gymaint o gybydd oedd Wil, heb ei weled uwchben ei gelc yn y gist ddu. Gwyddai ei gydnabod am ei wendid, a gwyddai Nanni. Ar noson fel hon, tynnid y gist allan o'i chuddfan, ac eisteddai'r lleidr ar ei hymyl, i gyfrif ei drysor, gan ei osod yn ôl yn ofalus wedi gorffen. Ar adegau tynnai gynnwys y gist allan ddwywaith neu dair, a'i droi a'i drosi, a'i gyfrif a'i ail-gyfrif. Dyna oedd difyrrwch Wil yn ei oriau hamdden.