Tudalen:Madam Wen.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y grisiau; a heblaw hynny, fel y dywedodd wrtho'i hun, nad oedd yn eu plith neb mor landeg na hanner mor lluniaidd â'r hon a welsai ef. Os gwelodd hefyd.

Daeth yn ôl i'r ystafell wedi cau'r drysau, a'i feddwl yn parhau'n gythryblus. Wrth edrych o'i gylch disgynnodd ei olwg ar obennydd ei wely. Beth oedd yma?

Mewn syndod dirfawr gafaelodd yn yr ysgrepan ledr golledig. Syllodd arni mewn mwy o syndod. Yr oedd ôl ei gyllell ef ei hun ar yr ystrapiau. Yr oedd hi'n llwythog hefyd. A dwylo crynedig agorodd hi, a thywalltodd ei chynnwys, yn aur ac arian, ar y gwely. Dechreuodd gyfrif. Yr oedd y swm yno'n gyflawn, heb geiniog ar ôl.

Ehedodd ei feddwl ar unwaith at Madam Wen, a daeth i'w gof y pethau rhyfedd a glywsai amdani o dro i dro, a dechreuodd fyfyrio.

V.

CÊL-FASNACH

GADAWODD ei ymweliad a'r Penrhyn argraff ddofn ar feddwl Morys Williams. Ni allai amser ddileu'r argraff honno. Meddyliodd lawer am Einir a'i hadduned. Methai yn lân weled sut yr oedd modd iddi hi, heb gymorth o rywle, lwyddo yn yr hyn a amcanai. Gwnaeth lw hefyd, os mynnai Rhagluniaeth, y rhoddai ef ei hun bob cynorthwy a fedrai iddi.

Yr oedd ei gariad ati yn fawr. Gwingai o anesmwythyd wrth weld y dyddiau a'r wythnosau yn myned heibio, ac yntau heb air o'i hanes hi. Holodd a chwiliodd allan pa diroedd ym Môn ac yn Arfon a fu'n eiddo'i thad, a chafodd fwynhad wrth wneud hynny. Yr oedd unrhyw waith a ddygai ar gof iddo ei henw hi yn wir fwynhad.

Parhau yn ddirgelwch iddo a wnaeth y tro rhyfedd hwnnw pan adferwyd iddo'r arian a ladratawyd. Ofer