Tudalen:Madam Wen.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fu pob ymchwiliad ac ymholiad. Ni wyddai'r gwasanaethyddion ddim. Ac o berthynas i ymddangosiad rhyfedd y ferch mewn dillad gwynion, aeth Morys ei hun o dipyn i beth i amau fwy-fwy a welsai rywun mewn gwirionedd ai peidio.

Yr oedd llawer o ysfa bod ar grwydr ynddo y dyddiau hynny. Ni allai aros gartref. Yn un peth dechreuodd bro Madam Wen, o'r llyn i'r môr, ei atynnu'n rhyfedd a'i hudo i grwydro i'r fan lle'r oedd siawns gweled anturiaeth. Marchogai'n fynych ar draws y gwyllt— leoedd i gyfeiriad y môr heb neges yn y byd. Ac ambell dro troai i Dafarn y Cwch i weld Siôn Ifan. Byddai'r hen ŵr ar gael bob amser, yn batrwm o dafarnwr cartrefol a chroesawus, yn ŵr heddychlon ac yn parchu deddfau Duw a dyn.

Pwy biau'r llong a welais i yn yr afon y pnawn yma?" gofynnodd Morys un diwrnod wrth ddychwelyd o draeth Cymyran.

"Oes yno long?" gofynnodd Siôn Ifan, gan honni anwybodaeth, ond yn barod yr un pryd i ddangos moesgarwch ac i deimlo diddordeb.

Rhoddodd yr yswain ddisgrifiad lled gywir o'r llong, ac meddai Siôn Ifan, " Wel, syr, yn ôl fel y disgrifiwch hi, credaf mai llong a berthyn i ŵr o Fryste ydyw hi."

Dyfeisio yr oedd. Gwyddai'n dda mai llong Madam Wen oedd hi a'i bod yno ers tri llanw. Ond hwyrach fod mynych arfer y ffigur am y gŵr o Fryste wedi peri i Siôn Ifan feddwl am Madam Wen a'r gŵr hwnnw fel yr un a'r unrhyw.

Arfera ddyfod yma, felly?" gofynnodd Morys.

Wel, wn i ddim am arfer dyfod," meddai yr hen ŵr, rhag ofn dywedyd gormod,—" ond y mae hi wedi bod yma amryw droeon. Bydd yn mynd yn ôl â llwyth o wenith neu haidd; weithiau geirch, neu'r pytatos yma sydd wedi dyfod yn bethau mor gyffredin yn y wlad." Gwnaeth stori mor hir ohoni, a chrwydrodd mor bell oddi wrth y pwnc fel mai ychydig o hanes