y lladron yn cilio'n ôl, ac ef oedd y diwethaf i ddeall y rheswm am hynny. Wedi troi ei ben gwelodd ar ei gyfer un yn myned heibio'n chwim gan farchogaeth yn ysgafn ar geffyl gwyn.
Gwaith munud oedd yr hyn a ddilynodd. Ond bu yn ddigon i analluogi yr unig ddau o'r swyddogion oedd ar eu traed. Prin y gwelsant y ceffyl gwyn na'i farchoges deg, heb sôn am y cadach gwyn bradwrus a osodwyd yn ddeheuig am amrantiad dan eu ffroenau. Taflwyd hwynt ar unwaith i ffitiau creulon o duchan a thisian a phesychu, ac ni fedrent weld yr un golwg.
Clywodd Morys chwerthiniad ariannaidd perchennog y ceffyl gwyn, cyn clywed sŵn ei enw ei hun ar ei gwefus. "Os myn Morys Williams ddifetha'r fintai, dalied yr arweinydd!" meddai, gan symud ymaith.
Myn anrhydedd dyn! Mi wnaf hynny!" meddai yntau, a neidiodd i'r cyfrwy.
Symudai Lewys Ddu gydag aidd, a Morys yn benderfynol o redeg Madam Wen i lawr. Ond ciliai'r ceffyl gwyn o'u blaenau fel lledrith. Drwy y grug gan brin gyffwrdd yr wyneb, drwy lwyni dyrys a thros bonciau, fel adar yn ehedeg. Ond daliai'r ceffyl gwyn i arwain o hyd. I derfynau Maelog, ac yn ôl drwy gorsydd Crigyll a gwaelodion Traffwll, a Lewys Ddu yn diferu o chwys, a Morys ar golli ei dymer. Ond dal i garlamu'n iach a rhwydd a wnâi'r ceffyl gwyn, ac meddai awel y nos mewn gwawd melodaidd, "Mae mwy o ddal ar Madam Wen nag a fuasai neb yn ei feddwl!"'
Rhedasant filltiroedd, ac yntau'n hwyrfrydig i ildio. Pan ddaethant i olwg y llyn gwnaeth ymdrech fwy nag o gwbl; a gwyddai Lewys fod galwad o bwys arno. Ond druan o'r ceffyl du, yr oedd wedi mynd i gredu ers meityn mai ymlid y gwynt yr oedd. O'r braidd na chredai ei feistr hefyd mai hunllef oedd yn ei boeni yntau. Daethant at ffermdy bychan Glan y Llyn, ac wrth neidio gwal o gerrig, ryw ddeugain