Tudalen:Madam Wen.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llath ar y blaen, aeth y ceffyl gwyn a'i farchoges o'r golwg ar drawiad.

Neidiodd Lewys y wal fel aderyn, hwyrach gan ddisgwyl gweld y ceffyl gwyn ar ei arrau yr ochr draw. Ond er mai cae agored oedd yno, nid oedd boban o Madam Wen na'i cheffyl i'w weld yn unman. Edrychodd Morys ar bob llaw. Aeth at y tŷ, ac er mai trymedd nos oedd, chwiliodd bob cornel a thwll ar y cyffiniau. Cododd deulu'r tŷ o'u gwelyau, a mynnodd ddatgan ei syndod iddynt.

Mae llawer wedi cael yr un driniaeth wrth geisio ymlid Madam Wen," meddai gwraig y tŷ.

"Gadael llonydd iddi hi fyddai'r gorau," meddai'r gŵr.

Trodd Morys ei wyneb mewn siom tuag adref, gan benderfynu gadael swyddogion y brenin, ddwy filltir yn nes i'r môr, i ymdaro trostynt eu hunain orau y gallent. Daeth i'r ffordd mewn lle y rhed afonig fechan dros geunant, ac wrth y pistyll clywodd chwerthiniad nwyfus merch yr ochr draw i'r ffrwd, a thybiodd glywed llais persain yn dywedyd nos dawch.

VI.

HELYNT PANT Y GWEHYDD

CAEL eu hunain yn unig a diymgeledd a ddarfu i swyddogion dolurus y cyllid ar ddiwedd eu hysgarmes gyda chêl-fasnachwyr Llanfihangel. Da oedd ganddynt gael mynd adref heb ragor o dwrw. Ni buasai waeth iddynt geisio olrhain gwynt y nos i'w orffwysle na cheisio dilyn Wil a'i wŷr i'w cuddfan hwythau. Pan ymddangosodd Madam Wen mor ddisymwth daeth yr ornest i ben, a 'doedd waeth heb na gwingo.

Aeth Morys hefyd i ddechrau teimlo mai gwaith difudd oedd erlid arwres yr ogof. Penderfynodd mai doethach fyddai gadael llonydd iddi. Ond ymddengys na fynnai ffawd mo hynny beth bynnag a amcanai