Tudalen:Madam Wen.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef. Un bore daeth llanc ar geffyl i fuarth Cymunod, gan ddwyn llythyr oddi wrth ŵr pwysig a adwaenai'r yswain. Sŵn cynnwrf ysbryd ac ofn oedd yn y llythyr hwnnw oddi wrth Hywel Rhisiart, Pant—y—gwehydd. Ac nid oedd ryfedd.

Yr oedd Madam Wen—ac ni fu erioed y fath haerllugrwydd, haerai Hywel Rhisiart—wedi beiddio anfon rhybudd iddo ef, gŵr mawr Pant y Gwehydd, y byddai iddi hi a'i gosgorddlu ymweled ag ef yn ei gartref ryw noson cyn bo hir. Gwenodd Morys wrth feddwl am ei ohebydd yn ffroeni ac yn rhochian uwchben cenadwri'r ogof. Darllenodd ymlaen. "Ac y mae'r lladrones yn fy herio i'w dal neu ei hatal rhag gwneud yr hyn a fyddo da yn ei golwg."

Chwyrnai Hywel ymlaen drwy lythyr hir. A fu erioed y fath eofndra wynebgaled? Yr oedd y ddyhires yn ddigon digywilydd i daflu, yn wir i ddywedyd, nad oedd ef, Hywel Rhisiart barchus, yn wir berchen yr hyn oedd yn ei feddiant. Ar y diwedd, y cais oedd ar i'r yswain ifanc fynd i Bant y Gwehydd pan ddeuai'r adeg, er mwyn dal y giwaid ysbeilgar hyn a'u rhoddi yng ngafael cyfraith gwlad.

Ond ni chafodd Morys hamdden hir i feddwl am Hywel a'i helynt. Digwyddodd ddyfod cludydd llythyr arall at y tŷ, ag ôl taith bell yn y llwch oedd ar ei ddillad. Ac wedi deall o ble y deuai hwnnw, ac oddi wrth bwy, aeth pob ystyriaeth arall allan o ben a chalon Morys. O'r diwedd yr oedd Einir wedi anfon ato, a pha beth arall o dan haul a dalai feddwl amdano? Y fath groeso a gafodd y gennad!

Ysgrifennai hi o dref Caernarfon, a soniai am brynu dwy o ffermydd yn y cwr arall i'r sir, a deisyfai ei farn. Teimlai yntau ei ruddiau'n twymo o foddhad. Pan aeth y gennad i'w daith yn ôl, cludai lythyr oddi wrth yr yswain yn dywedyd ei fod yn mynd i Gaernarfon yn ddioed.

Yn fore drannoeth cyfrwywyd Lewys Ddu, ac aeth y ddau i'w taith am Dal y Foel. Ar y ffordd, pan