Tudalen:Madam Wen.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn unig gyda'i fyfyrdodau, deuai i'w feddwl adduned Einir. Hiraethai am gyfle i wneud rhywbeth a fyddai'n gymorth i rwyddhau'r gwaith. Gwibiodd llawer syniad rhyfedd drwy ei feddwl pan oedd ar ei daith; syniadau gwylltion rai, ond pob un ohonynt a'i wraidd yn ei gariad ati hi.

Gadawyd Lewys mewn diddosrwydd yng nghanol llawnder yn Nhal y Foel, ac aeth ei berchen dros y dŵr ei hunan. Daeth heb drafferth o hyd i'r anedd-dy bychan y tu allan i'r dref, lle'r arosai Einir. Nid oedd hi yn y tŷ, ond cyfarwyddodd gwraig y tŷ ef, ac aeth yntau i fyny'r bryn i chwilio amdani.

Yr oedd yn ddiwrnod hyfryd: natur o'i gylch yn odidog. Dringai lwybr igam-ogam yn uwch, uwch; a deuai rhyw fawredd newydd o'r Eryri ddihysbydd i'w olwg beunydd. Y fath swyn oedd mewn chwilio am gariad mewn lle fel hwn. Ac fel yr ymlwybrai, gan ddisgwyl ei gweld ym mhob trofa y tu hwnt i bob craig; ond yn ofni weithiau mai deffro a wnai a chael mai breuddwydio yr oedd, syrthiodd cyfaredd anian arno yntau, gan wneud ei galon fel calon plentyn.

O'r diwedd gwelodd olygfa a wnaeth iddo sefyll mewn edmygedd. Ar y glaswellt ar fin y llwybr yng nghysgod craig eisteddai Einir. O'i chylch chwaraeai adar lu, fel pe'n cystadlu am ei sylw hi. Wrth ei thraed nid ofnai'r cwningod neidio mewn nwyf o dan wenau'r haul, pob calon fechan yn dawel mai ffrind oedd gerllaw.

Nid rhyfedd iddo ef deimlo'n amharod i dorri ar y fath ddedwyddwch. Syllodd arni o hirbell, a gwelodd hi yn mwynhau gwobrau'r dydd; merch Anian gartref, yn frenhines y chwaraele. Naturiol oedd iddo deimlo siom pan welodd bob aderyn yn cymryd aden, a'r cwningod yn ffoi i'w cuddfannau, wrth iddo ef ddynesu.

Dywedodd wrthi fel yr oedd wedi hiraethu amdani, gan ddannod iddi ddianc o'r Penrhyn a'i adael heb air o gysur ag yntau'n glaf o gariad.