Tudalen:Madam Wen.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ni chredaf oddi wrth ei olwg i'm câr pryderus dorri ei galon," atebodd hithau'n chwareus. "Ni chollwyd noson o gwsg o'm herwydd, af ar fy llw."

"Yn wir, nid oes awr o'r dydd, na dydd o'r mis, na byddaf yn hiraethu amdanoch," meddai yntau.

Ond ni fynnai hi ormod o ddifrifwch. Gwnaeth ymgais fwy nag unwaith i greu difyrrwch, ond ni lwyddai yn hollol. Yr oedd ef wedi ei cholli unwaith, ac ofnai mai felly y byddai eto am gyfnod hir, os oedai. "Ni allaf fyw yn hwy heb eich cael gyda mi," meddai, yn ei ddull diamwys ei hun.

Aeth ei gruddiau'n rhuddgoch. Newidiodd ei gwedd, heb ateb dim. Syllodd yntau arni fel y gwnaethai dro o'r blaen mewn dryswch a phenbleth amlwg. Beth oedd ystyr yr edrychiad a ddaeth i'w llygaid, pa un ai boddhad ai gofid, pa un ai llawenydd ai tristwch, ai hiraeth ai ynte'r cwbl yn gymhleth? Ond rhyw fflachiad oedd hynny, a throsodd. Y funud nesaf daeth ei hateb hithau mewn ymbil hanner chwareus. "Peidiwch â phwyso arnaf heddiw. Nid wyf eto wedi blino ar fy rhyddid, ond 'does wybod yn y byd pa mor fuan y bydd hynny."

Teimlai Morys yn siomedig, ond nid oedd y drws wedi ei gau. Yr adduned oedd ar y ffordd fe dybiai. A chan y tybiai hefyd fod gwell ffordd i gyfarfod â honno nag iddi hi ymdaro trosti ei hun, cymhellodd ei ffordd ef yn daer. Dangosodd iddi mor hawdd fyddai iddi orffen ei gwaith pan fyddai'n wraig yng Nghymunod, a'i gynhorthwy ef wrth law ar bob adeg.

Ond nid âi hi gam ymhellach ar lwybr difrifwch. Gwell oedd ganddi ei glywed ef yn adrodd sut y treuliai ei amser yn ei ardal fabwysiedig, a chlywed am helyntion. Madam Wen a'i mintai, a'i ymyrraeth yntau â hwynt. Ac i'r tir hwnnw y bu raid iddo ei dilyn.

Wythnos yn ôl," meddai wrthi, cafodd Lewys a minnau ein trechu'n lân gan arwres fedrus yr ogof, sydd a'i harswyd ar gymaint. Ac yn wir, y mae gweled Madam Wen ar gefn ei cheffyl yn wledd deilwng o