Tudalen:Madam Wen.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heblaw y medrai ymarfer ebol. Perthynai i raddfa uchaf llafur, ac yr oedd yn bur fel dur i'w gyflogydd. Nid hawdd oedd ennill ei wrogaeth, ac nid teyrnged fechan i Morys Williams oedd bod gan Twm bach feddwl y byd ohono. Yr oedd y ddau, er mor annhebyg, yn gyfeillion.

Dywedai cymdogion fod Twm ers ysbaid yn awr wedi mynd yn dra annibynnol. Yr oedd yn fwy cartrefol, a heb fawr gyfathrach rhyngddo â neb, heb amser ganddo nac i gau clawdd na hwylio pladur ar faes neb. Ni welid ef yn unman o'i diriogaeth ei hun, ond pan fyddai yng Nghymunod yn gweini ar yr yswain, a gwyddai pawb mai o gyfeillgarwch y tarddai hynny. Ond ni wyddai neb sut yr oedd Twm yn byw.

Ni bu erioed y fath warchod gofalus a disgwyl ac ofni ag oedd ym Mhant y Gwehydd wythnos rhybudd Madam Wen. Po fwyaf o ddarparu a wneid ar gyfer ei hymosodiad, mwyaf yn y byd o bryder a deimlai pob un wrth weld yr amser yn dynesu. Aeth yr hen yswain a'i wraig i fethu cysgu gan bryder, a'r gweinidogion i weled drychiolaethau ym mhob twll a chongl, gefn dydd fel canol nos.

Yr oedd un o feibion Presaddfed yn filwr, a gosodwyd arno ef gyfrifoldeb trefnu amddiffyniad Pant y Gwehydd. Teimlai pawb bwysigrwydd y sefyllfa honno.

Yn ei hamddiffynfa gadarn hithau ar lan y llyn chwarddai Madam Wen wrth glywed am y darpariaethau helaeth, ond cadwai ei chyfrinach yn ei mynwes ei hun, ac ni wyddai neb o'i mintai pa funud y byddai galwad arno, na pha gynllun a fyddai ei chynllun hi. Ond teimlai pob un mai ei ffordd hi fyddai'r ffordd orau pan ddeuai i'r amlwg.

Aeth tair noswaith o'r wythnos benodedig heibio heb unrhyw gyffro heblaw y cyffro ym mynwesau amddiffynwyr dewrfrydig Pant y Gwehydd. Yr oedd y dirdyniad dibaid ar eu nerfau yn dechrau gwneud ei ôl ar y cryfaf, nes bron wneud llwfr o'r dewraf. Nos