Tudalen:Madam Wen.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ôl nos, gan ddisgwyl, disgwyl; nos ar ôl nos heb gwsg nac iawn orffwys. Yr oedd yn anodd peidio â theimlo blinder yr hirbrawf.

Daliodd Morys i fynd yno'n ffyddlon am dridiau o'r wythnos bwysig, ond rywfodd daeth rhywbeth i'w luddias ar y pedwerydd dydd. A'r diwrnod hwnnw, gyda machlud haul, dechreuodd y deheuwynt chwythu; rhyw chwibaniad main drwy frigau'r coed o gylch Pant y Gwehydd oedd yn darogan drycin. Duai'r awyr tua'r môr gan awgrymu'n hyll fod noson fawr gerllaw. Rhuthrodd chwa o ddrygwynt drwy'r berllan afalau gan dorri'r brigau'n drystfawr. Cododd haid. o frain o'r coed, mewn cyngor croch pa un ai aros ai cilio ymaith a fyddai orau.

Ymledai'r cwmwl tua'r de nes peri dyfod nos cyn ei hamser. Nesaodd gwylwyr y buarth at ei gilydd am loches a chymdeithas, ac nid oedd llais eu harweinydd dewr i'w glywed mor fynych ymhlith ei wŷr. Goleuwyd cannwyll frwyn ym mhob ystafell, a symudodd Hywel Rhisiart ei gadair yn nes i'r tân mawn.

Yr un teimlad oedd ym mynwes hyd yn oed y gwas bach. Brysiai yntau gyda'i orchwylion er mwyn cael i ddiddosrwydd cyn dyfod nos ac ystorm. Yr oedd helynt Madam Wen yn pwyso'n drwm ar feddwl y gwas bach, yn enwedig wedi i'r haul fynd i lawr. Dyna pam y gwelai fwgan ym mhob twmpath tywyll wrth fyned i'r cae oedd tu cefn i'r buarth i gyrchu tanwydd. Ond beth oedd y golau a welai drwy'r gwyll yng nghyfeiriad Tyddyn Wilym? Er maint ei ofn safodd i edrych, a gwelodd fflamau enbyd yn troelli o flaen yr awel gref.

Ydlan Robin Elis Tyddyn Wilym sydd ar dân, meddai'r gwas bach wrtho'i hun, a ffwrdd ag ef heb danwydd am y tŷ, â'i wynt yn ei ddwrn. Gwaith munud oedd lledaenu'r newydd brawychus trwy fuarth a thŷ.

Greddf yn ddiamau ydyw yr awydd mewn dyn achub ydlan yn anad dim. Taranai mab Presaddfed