Tudalen:Madam Wen.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

orchmynion celyd, fel pe byddai gadfridog ar faes brwydr, a'i wŷr rhyfel ar ffoi; ond ni fuasai waeth iddo chwibanu. Diangodd y dynion bob un o'i le apwyntiedig; yn gyntaf i ben y clawdd o'r tu cefn i'r buarth er gweled y tân. Oddi yno—heb na morwyn na gwas bach ar ôl—rhedodd pawb fel gyrr o ddefaid i lawr ar garlam tua Thyddyn Wilym; pawb ond Hywel Rhisiart a'i wraig, a milwr Presaddfed. oedd anrhydedd yn galw arno ef i aros ar ôl a bod yn ffyddlon i'w swydd a'i sefyllfa. Tra yr oedd y frwydr gyda'r fflamau yn mynd ymlaen o gylch tas wair a dwy das wellt Robin Elis, safai Hywel Rhisiart a'r milwr ar ben y clawdd yn gwylied eu symudiadau, gan ymweled yn awr ac eilwaith â'r tŷ i weld fod Beti Rhisiart a phopeth arall yn ddiogel.

Golygfa hagr oedd gardd o wair a gwellt ar dân yng nghanol drycin. Yr oedd yn dda i Robin Elis fod cymorth mor agos ato. Diogelwyd un das wellt oedd ar wahân, ac achubwyd rhyw ychydig o'r gwair. Ond yr oedd colled y tyddynnwr truan yn fawr serch hynny. Dan gawodydd trymion, ac mewn gwynt yn gyrru fel byddinoedd yn ymosod, y gorffenwyd y gwaith. Gyda theimladau cymysg o ddiolchgarwch a thristwch yr aeth Robin Elis a'i wraig i'r tŷ ar ôl gwneud yr hyn a allent er diogelu eu buddiannau. Dafydd y mab oedd y diwethaf i fynd i mewn. Yr oedd y cymdogion caredig wedi brysio adref bob un ar ôl gwneud eu gorau hwythau; pawb yn wlyb hyd at y croen.

Safodd Dafydd o flaen y simdde fawr, a'i lygaid ef oedd y cyntaf i ddisgyn ar rywbeth ar yr astell, rhywbeth nad oedd yn arfer bod yn y fan honno.

"Beth ydi hwn, deydwch? gofynnodd, gan afael mewn pwrs lliain, a darn o linyn yn cylymu ei enau.

"Beth ydi pybeth?" meddai Margiad Elis yn groes, gan synnu bod gan Dafydd galon i ofyn cwestiynau segur ar adeg mor drallodus.

Yn hamddenol datododd Dafydd y cwlwm, a'r holl deulu erbyn hyn wrth ei benelin yn llawn chwilfrydedd.