Tudalen:Madam Wen.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trugaredd. Ac yng nghwrs ei ymbiliad taer aeth i edliw diffygion Tafarn y Cwch a'r gororau yn gyffredinol, fel lle na welid ynddo ond ffyliaid a chnafon a hen wrageddos o fore glas hyd hwyr." Ac yn awr, syr," meddai, â'i law yn estynedig, a'i gorff ychydig yn sigledig gan effaith y rum, "â phwy yr ydwyf wedi cael yr anrhydedd o ymddiddan?"

Yr adeg honno y canfu Siôn Ifan a'r Milwriad fod ychydig o atal dywedyd ar y gŵr ieuanc. "C— Capten Wh—White," meddai, "o F—Fryste!

Wrth glywed hyn methodd Siôn Ifan a dal heb fradychu syndod. Safodd yn llonydd ac edrychodd yn graff ar yr ymwelydd. Yna cofiodd mai gwestywr oedd, a bod ymddygiad o'r fath ar ei ran ef yn gywilyddus. Edrychodd y capten arno yntau a daeth rhyw gysgod o wên i'w wyneb dileferydd. Nid oedd y Milwriad Sprigg yn ddigon chwim ei feddwl a'i olwg i weled nac i wybod am fanylion dibwys o'r natur yma.

Capten! meddai, Pa le yr arhoswch chwi heno? A wnewch chwi aros yma heno?"

"N—Nid wyf yn m—mynd ymhell," oedd yr ateb byr a thawel.

"Da iawn! Da iawn!

Da iawn! Ac efallai y deuwch yn ôl! Da iawn!"

"M—mae gennyf long g—gerllaw," meddai'r capten. Aeth Siôn Ifan i chwilio am Catrin Parri, a'i feddyliau'n gymysgfa o syndod a difyrrwch. Ond wedi dyfod ati, rhaid mai newid ei feddwl a wnaeth, canys ni ddywedodd ddim wrthi ond "Taid annwyl!"

Ar y cyntaf datgan syndod a wnaeth y Milwriad o ddeall bod llong mewn lle fel hwn, ond ymhen ennyd cofiodd am ei brofiad ei hun y bore hwnnw, a dechreuodd ei aeliau laesu. Pan ddaeth yr atgof yn ôl yn ei lawn rym, anghofiodd frawdgarwch yr ennyd flaenorol, a gofynnodd yn ddigllawn, "Ai slŵp ydyw hi wedi ei lliwio'n las?

Crymodd y gŵr ifanc ei ben yn ddidaro i ddywedyd mai ê. Ac ar hynny dechreuodd y llall ddywedyd