Tudalen:Madam Wen.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beth a dybygai ef o ymddygiadau difoes pob un a berthynai i'r llestr dirmygedig. Ond nid oedd modd cweryla â'r gŵr o Fryste. Yr oedd yn batrwm o amynedd. Daliodd i wenu nes i'r ystorm gilio o fynwes y Milwriad ac i'r cymylau godi oddi ar ei aeliau. Yna dywedodd yn foesgar bod yn rhaid iddo fyned i'w daith, ond na fyddai yn hir cyn dychwelyd.

Wedi iddo droi ei gefn aeth y Milwriad am dro i'r meysydd. Daeth yn ôl â'i ben yn gliriach a'i gerddediad yn unionach. Ymolchodd ac ymdrwsiodd ar gyfer dychweliad y llall, ac yna eisteddodd i'w ddisgwyl. A thra disgwyliai clywodd Siôn Ifan ef yn sisial wrtho'i hun yn gyffrous, "Got it! Got it!" A chan daro'r bwrdd ar y gair diwethaf, "Got it! Just the—man!"

Yr oedd Siôn Ifan mewn dryswch. Wrth edrych ar y gŵr ifanc, a'i glywed yn siarad, daethai rhyw syniad rhyfedd i feddwl yr hen ŵr, na fynnai, erbyn ystyried, ei ddatguddio hyd yn oed i Catrin Parri. Meddyliodd y gallai mai camgymeryd a wnâi, ond yn siwr amheuai yn fawr nad adwaenai'r gŵr ifanc hwnnw, er mor feiddgar ei ystrywiau. Ac yr oedd Siôn Ifan mewn mwy o benbleth na hynny hefyd. Yr oedd y gŵr ifanc i ryw bwrpas tywyll i'r tafarnwr—wedi dywedyd mai ef oedd piau'r llong, mai ef, mewn gair, oedd y gŵr o Fryste. "Nid bod a wnelo hynny ddim â mi," meddai'r hen ddyn wrtho ei hun, "ond beth sydd ar droed, tybed? A dyma hwn eto mewn cyffro yn curo'r bwrdd nes mae'r llestri'n dawnsio, yn siarad ag ef ei hun ac yn gweiddi, Got it!' fel petai wedi dal chwannen. Mae drwg yng nghaws rhywun yn rhywle!" Ysgydwodd Siôn Ifan ei ben yn arwyddocaol.

Yn fuan cerddodd y gŵr ifanc i'r ystafell eilwaith, mor dawel a hunan-feddiannol a phetasai wedi tyfu yn Nhafarn y Cwch, a heb erioed fod oddiyno. Gwrandawodd yn ddigyffro ar ystori a chynllun y Milwriad, oedd yn ei absenoldeb wedi dyfod ar draws