Moes-ymgrymodd y gŵr o Fryste, ond gwrthododd y Milwriad y cymod. Aeth o frwnt i fryntach. Unwaith neu ddwy amcanodd y gŵr ieuanc ddianc, ond ofnai eu gadael, rhag iddynt ymrafaelio. Crefodd am dawelwch, am heddwch, am ddoethineb. Ond er bod Morys yn barod i wrando, nid felly'r Milwriad.
"Ni bydd milwyr y brenin yn ymladd â dyrnau fel segurwyr pen ffair! Cleddyfau! Mynnwn gleddyfau!
Dyna'r hyn oedd y gŵr o Fryste yn ei ofni. Clywsai am y Cyrnol Sprigg yn codi ffrae fel hyn o'r blaen er mwyn cael dangos ei fedr gyda'i gledd. Gwyddai hefyd trwy glywed lawer gwaith am fedrusrwydd y Cyrnol, ac ofnai am yr yswain gwledig.
"Ewch adref, da chwi!" sibrydodd wrth yr yswain yn erfyniol.
"Af adref yn siwr," atebodd yntau. "Nid wyf am gymryd unrhyw fantais ar ddyn meddw. Ond deuaf heibio yfory'r bore, a chledd gyda mi os myn ef hynny."
Mynnaf!" meddai'r Milwriad. Ac felly yr ymwahanwyd er pob ymdrech i gael heddwch rhyng— ddynt. Y mae ar gofnodiad i'r gŵr ieuanc golli noson o gysgu wrth feddwl am yr ymdrechfa oedd i fod drannoeth. Ofnai nad oedd medr yr yswain agos gymaint ag eiddo'r milwr, a gwyddai nad oedd anrhydedd y Milwriad Sprigg yn werth botwm. Gresynai fod yr yswain tawel wedi syrthio mor ddiniwed i'r rhwyd a osodasid iddo.
Dyna a gadwodd y gŵr o Fryste yn effro trwy gydol y nos honno, yn pendroni ac yn ceisio dyfeisio rhyw ffordd allan o'r trybini a'r perygl. Ac nid dyfeisiwr gwael oedd y gŵr o Fryste. Ar yr un pryd nid oedd arno eisiau colli'r cyfle i ennill swm sylweddol o arian drwy roddi gwasanaeth ei long a'i wŷr i rai a fedrai dalu mor dda am ei benthyg. Heblaw hynny, er y dirmygai ef ei hun y Milwriad Sprigg a phob un cyffelyb iddo, yr oedd ei deyrngarwch tuag at y brenin o linell