Tudalen:Madam Wen.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ydyw," meddai'r gŵr o Fryste, a'i lygaid ar yr enillion, m—mae'r llong i'w chael."

Wedi hyn cafwyd ymgom ddiddan, a'r Milwriad oriog mewn tymer rywiog. "Gaf fi ddweud," meddai'r gŵr ieuanc, "i mi glywed amdanoch o'r blaen? Clywais am fedr y Cyrnol Sprigg gyda'r cledd."

"Do, bu cleddyf yn fy llaw fwy nag unwaith! meddai'r Milwriad yn ymffrostgar.

"Dymunaf eich llongyfarch!" meddai'r llall.

Felly yr ymgomient, a hwyrach na fuasai'r Milwriad ddim wedi peidio â gwenu'r noson honno pe cawsai'r ddau lonydd. Ond gan i'r milwr unwaith gau'r drws ar ddannedd Siôn Ifan gyda chwrs o rodres, beth wnaeth yr hen ŵr ond mynd a gŵr arall i mewn i'r ystafell heb gymaint a dywedyd, "Gyda'ch cennad!" neb amgen na Morys Williams, Cymunod, oedd wrth fyned heibio wedi troi i mewn am ymgom efo'r tafarnwr.

Gan deimlo y gallai fod ar y ffordd, yr oedd Morys wedi dechrau ymesgusodi, ac ar fin ymneilltuo, pan ddywedodd y Milwriad ryw eiriau ffôl am rai na wyddent yn amgenach nag ymwthio ar draws cyfrinach rhai eraill. Safodd yr yswain am funud mewn syndod. Yna newidiodd ei feddwl, a symudodd yn hamddenol ar draws yr ystafell, ac aeth i eistedd yn ymyl y tân. Petasai wedi edrych ar y gŵr ieuanc, ac nid ar y Milwriad, buasai wedi gweled olion amlwg anesmwythyd yn wyneb hwnnw. Ond ni ddigwyddodd edrych, a diolchai'r gŵr ieuanc am hynny yn ei galon.

Yr oedd y Milwriad yn fwy na hanner meddw ers meityn, ac wrth weld yr yswain yn paratoi i aros, ffromodd yn fwy. Dywedodd amryw bethau di-alw-amdanynt; dywedodd bethau ffôl a garw, ac o'r diwedd digiodd yr yswain hefyd.

"Foneddigion," meddai o'r diwedd, a chododd ar ei draed, yr oeddwn ar fedr erfyn eich maddeuant pan achubodd y gŵr yma'r blaen arnaf a chael y gair cyntaf. Dymunaf ofyn yn awr am i chwi fy esgusodi."