Tudalen:Madam Wen.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

botwm isaf y glin arall, bron na chollodd bob dylanwad arno'i hun.

"Erys dau eto, Cyrnol!" meddai'r llanc, gan siarad am y tro cyntaf er dechrau'r ymgyrch. Ac ni allai Morys lai na gwenu wrth weled pen moel glin y llodrau, a'r Milwriad ei hun mewn cymaint cythrudd.

"Pa un ai dyn ai ellyli o annwn sydd yma?" gofynnodd y milwr o'i galon. Ac yn y fan aeth y pumed botwm, ac ar ei ôl y chweched, mewn trawiad, fel deor ffa, nes peri i Morys Williams chwerthin dros y lle.

"Yn awr, Cyrnol, ple mae'r nesaf? A oes un ar y crys?" gofynnai'r llanc, gan ymdaflu i'w orchwyl gydag egni a nwyf. Prin y gwelai'r Milwriad symudiad yr arddwrn chwim. Ar ei orau y gwrthdroai'r toriadau a'r trywaniadau oedd megis yn glawio arno. Wynebodd lawer gŵr hyfedr yn ei ddydd, ond neb mwy hylaw na hwn.

"Yr ydym wedi bod wrthi yn hir, Cyrnol, a'r yswain yn disgwyl!" meddai'r llanc; ac ar y gair aeth heibio amddiffyniad gwallus y Milwriad, a gwelodd Morys Williams gleddyf hwnnw yn neidio o'i law fel pe byddai bywyd ynddo, a'r gŵr o Fryste yn paratoi i roddi ei gledd ei hun yn y wain.

Eisteddodd y Milwriad ar y ddaear, a'i wyneb wedi gwelwi. "Y gŵr drwg ei hunan ydyw!" meddai. Archwiliodd Morys ei fraich glwyfedig, a chanfu ôl trywaniad y cledd uwchben i'r penelin. Safai'r llanc gerllaw heb ddywedyd gair.

Nid oedd yr archoll mewn lle peryglus, ond yr oedd y Milwriad y tu hwnt i allu ymladd eilwaith am amryw wythnosau. "Af i chwilio am ymgeledd iddo," meddai'r gŵr ieuanc, a cherddodd yn frysiog tua'r ffordd. Ond cyn iddo lawn gyrraedd y clawdd clywyd chwibaniad clir yn torri ar ddistawrwydd y bore. Cododd Morys ei olwg, ac edrychodd. Yr oedd y gŵr ieuanc wedi sefyll. Yr un munud gwelodd yr yswain geffyl gwyn yn neidio'n ysgafn dros y clawdd, ac yn rhedeg at y llanc gan ei groesawu a rhodresu o'i