gylch, fel ci yn falch o weld ei feistr. Chwaraeodd yntau ennyd efo'r march; yna neidiodd ar ei gefn, ac ymaith a'r ddau fel y gwynt, a Morys, wedi anghofio'r gŵr clwyfedig, yn syllu ar eu holau mewn syfrdandod.
Meddai wrtho'i hun, "Madam Wen, cyn wired a'm geni!"
Beth sydd yn bod?" gofynnodd y Milwriad yn gecrus.
Atebodd yr yswain yn freuddwydiol, yn fwy wrtho'i hun nac wrth ei gydymaith, "Wn i ddim sut na buaswn i wedi amgyffred yn gynt! " Ac yn uwch ei dôn wrth y milwr, "Y gŵr ifanc yna!
"Gŵr ifanc y fall!" gwaeddodd yntau, gan deimlo poen yr archoll erbyn hyn. "I ba le yr aeth?
Gresyn, fe dybiai Morys, fyddai dywedyd wrth y truan mai merch a'i trechodd. Mae wedi myned i ymofyn ymgeledd i chwi! "
Ymhen ychydig amser gwelsant Siôn Ifan yn brasgamu ar draws y cae, a Chatrin Parri'n dilyn o hirbell, yn dwyn llestriad o ddŵr a dracht o frandi; cadachau hefyd ac eli, i ymgeleddu braich glwyfedig y Milwriad.
"Taid annwyl!" meddai Siôn Ifan, "beth sydd wedi dwad i'r dyn?" Ond ni chanfu Morys ddim yng ngwaelodion llygaid cyfrwysgall Siôn Ifan, er syllu'n graff, ond diniweidrwydd ŵyn mis Mawrth. A pharodd hynny i'r yswain ddyfalu ai tybed fod Madam Wen wedi llwyddo i dwyllo hyd yn oed ei phobl ei hun. Gwnaed cymod buan rhyngddo â'r Milwriad, a chyn hanner dydd aeth Morys adref i gnoi ei gil megis ar ddigwyddiadau'r bore.
Y noswaith honno aeth Wil Llanfihangel i Dafarn y Cwch, a siaradai Siôn Ifan ac yntau am y llong las oedd yng ngenau'r culfor. Hwyrach mai dealltwriaeth rhwng y ddau a wnaeth iddynt sôn amdani yng nghlyw'r Milwriad. Ag yntau'n gwrando, daeth i ddeall bod a wnelo'r gŵr hwn eto â'r llong.