Tudalen:Madam Wen.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Yr oeddwn i'n meddwl mai'r gŵr oedd yma'r bore oedd piau hi," meddai; a'r atgof am "y gŵr o Fryste" yn peri iddo ffyrnigo.

"Ymhonnwr oedd hwnnw," meddai Wil yn ddibetrus," ac y mae wedi cymryd y goes.

Apeliodd y milwr at Sion Ifan. "Yr oeddwn innau, fel chwithau, wedi credu'r gŵr dieithr," meddai'r tafarnwr, "ond ymddengys mai ymhonnwr oedd. O dan ofal y dyn yma y mae'r llong yn ddiamau."

Arweiniodd hyn i gytundeb rhwng Wil a'r Milwriad, tebyg i'r cytundeb blaenorol, gyda'r gwahaniaeth bod yn rhaid i Wil gael ernes ar y fargen. A dyna fu.

VIII

Y SIRYF MEWN TRYBINI

O FEWN deufis i helynt Pant y Gwehydd ysbeiliwyd dau neu dri o leoedd pwysig eraill mewn gwahanol gyrrau o'r sir, a hynny mewn dull oedd lawn mor feiddgar a'r modd yr ymddygwyd at Hywel Rhisiart. Aeth mawrion y sir yn anesmwyth, a daeth cwynion mynych a thaer gerbron yr awdurdodau, ac nid oedd modd cau llygad yn hwy ar yr anhrefn. Am hynny, er mor ansefydlog oedd y wlad yn gyffredinol, ynghyda'i llywodraethwyr, yr oedd yn rhaid gwneud rhywbeth gartref ac amddiffyn pobl y sir.

Ac un diwrnod daeth gorchymyn i'r Siryf Sparrow ar iddo fyned i ardal y llynnoedd yn enw'r brenin, i wneud ymchwiliad parthed yr afonyddwch, ac i ddal a galw i gyfrif y rhai oedd yn euog o droseddu yn erbyn cyfraith a rheol gyda'r fath eofndra.

Ni buasai ymdeithydd yn yr ardal yn gweled y cynnwrf lleiaf ar law yn y byd. Tawelodd pethau yn ebrwydd wedi ymadawiad llong Madam Wen, oedd wedi myned i hebrwng y Milwriad Sprigg dros y dŵr i dir Iwerddon. Gwnaeth y llong ddwy fordaith arall ar negeseuau tebyg ddechrau'r haf, a daeth Môn,