Tudalen:Madam Wen.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

debyg na fu dim erioed a mwy o sôn amdano oedd ar yr un pryd mor amhenodol â mintai Madam Wen.

Rhaid i ni ddal y lladrones ei hun!" meddai'r siryf yn chwyrn.

Wel ie, purion peth fyddai hynny, am wn i," meddai'r yswain, rhag peidio â dywedyd dim. "Ond y mae arnaf ofn mai haws ydyw deisyf ei dal na gwneud hynny. A fydd hi gartref, tybed?"

Gartref?" meddai'r siryf yn syn.

Chwarddodd Morys a gofynnodd, "A wyddoch chwi am rywun sydd erioed wedi bod yn ymddiddan â Madam Wen?

Ni wyddai'r siryf am neb o'r fath, ac yn ei galon aeth i ddechrau amau ai tybed nad oedd swyn-gyfaredd arwres yr ogof wedi syrthio ar y gymdogaeth ben bwygilydd. "A oes rhyw sôn," meddai, "fod ganddi ryw allu annaturiol neu oruwch-naturiol, dywedwch i mi?"

"Aeth dros fy mhen i fwy nag unwaith efo'i champau," atebodd Morys, a dechreuodd adrodd hanes yr helynt gyda swyddogion y cyllid, a'r modd y diflannodd Madam Wen mor ddisyfyd ar ddiwedd yr hirdaith honno amser yn ôl. Ac wrth y bwrdd cinio diddanwyd y gŵr dieithr ymhellach â llawer hanesyn arall a glywsai yr yswain o dro i dro gan bobl yr ardal am ystrywiau arglwyddes y llyn.

Ai nid cynllun da fyddai i chwi holi ychydig yn y cylch yn gyntaf cyn anturio i'r fan?" gofynnodd. "Ond siarad gyda phreswylwyr y fro yma, siawns na welwch chwi sut y mae pethau, ac y bydd hynny o fantais i chwi yn y gorchwyl sydd o'ch blaen."

Yr oedd hynny yn awgrym digon synhwyrol, a'r swyddog yn cydweld. Penderfynodd fyned yn ddiymdroi ar ryw fath o daith ysbïol i blith yr ardalwyr. A dyna fu.

Är ei ffordd gwelodd lanc o dyddynnwr wrth ei waith mewn cae, ac aeth ato ac i ysgwrs ag ef. Canmolodd ansawdd pridd cynhyrchiol yr ardal, a'r